Newyddion S4C

Dirwyo gyrwyr sy’n torri terfynau cyflymder ar ffyrdd mwyaf llygredig Cymru

27/09/2021
M4 Port Talbot

Gallai gyrwyr sy’n torri terfyn cyflymder 50mya ar rai o ffyrdd mwyaf llygredig Cymru dderbyn dirwy neu lythyrau o rybudd o ddechrau fis Hydref.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gyrwyr "mwyaf peryglus" yn cael eu herlyn o 4 Hydref ymlaen.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, ers i’r terfynau cyflymder gael eu newid ar nifer o ffyrdd penodol, mae lefelau nitrogen diocsid yn yr ardaloedd hyn wedi gostwng hyd at 47%.

Dywed y llywodraeth bod hyn yn cyfrannu at warchod pobl rhag salwch difrifol a mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.

Mae camerâu cyflymder parthau 50 milltir yr awr wedi eu gosod ar bedair ffordd yng Nghymru er mwyn gostwng lefelau llygredd ers 2018.

Rhain fydd yn destun llythyrau o rybudd neu ddirwyon os bydd gyrwyr yn dewis anwybyddu'r cyfyngiadau cyflymder 50mya.

Y ffyrdd dan sylw yw'r:

  • A494 rhwng ffin Cymru/Lloegr a Chyfnewidfa Dewi Sant, Glannau Dyfrdwy
  • A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 yn Wrecsam
  • A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd
  • M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot

Bydd camerâu cyflymder 50mya parhaol rhwng cyffyrdd 25 a 26 o'r M4 yng Nghasnewydd yn dechrau "yn y dyfodol".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Lee Waters:

"Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach erbyn hyn.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd, ond mae angen i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn fentrus i gael unrhyw obaith o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”

Ychwanegodd y dirprwy weinidog bod angen i bobl ddilyn y rheolau: “Mae cydymffurfio â'r terfynau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl.

"Mae angen i ni weithredu nawr i wneud Cymru'n lle diogel i fyw gydag aer glân i bawb."

‘Erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus’

Ychwanegodd Rheolwr Partneriaeth sefydliad atal gor-yrru GanBwyll, Teresa Ciano:

"Mae gyrru ar y terfyn cyflymder sydd wedi’i nodi yn fanteisiol o ran diogelwch, ond gall hefyd wella ein bywydau mewn ffyrdd eraill. Drwy gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer i Gymru, gwyddom y bydd ein ffyrdd yn fwy diogel hefyd. 

“Drwy weithredu rhaglen llythyrau cynghori a fydd y cyntaf o'i math, byddwn yn gallu rhoi gwybod i bobl am bwysigrwydd cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yn y lleoliadau hyn, tra'n parhau i erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.