Tri pherson wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad ‘difrifol’ yn Sir Benfro
25/09/2021
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod tri o bobl wedi profi anafiadau all beryglu bywyd yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 ger troad Trecwn, Sir Benfro am 23:50 nos Wener, 24 Medi.
Cafodd tri o bobl eu cludo mewn awyren i'r ysbyty, ac anafwyd pedwar o bobl eraill.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd wedi gweld car Skoda gwyn neu gar Chrysler coch oedd yn teithio ar y ffordd benodol cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Llun: Google