Rhagolwg gemau rhanbarthau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig
Roedd y tymor diwethaf yn un hir a phrysur i ranbarthau rygbi Cymru, ond ar ôl cael seibiant dros yr haf, mi fyddan nhw’n dychwelyd i’r maes y penwythnos hwn yn barod am y tymor newydd.
Byddan nhw’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd - Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig - cynghrair sy’n cynnwys yr 16 tîm gorau o Gymru, Yr Alban, Iwerddon, Yr Eidal a nawr, De Affrica.
Mae’r newidiadau cyffrous i’r bencampwriaeth ac addasiadau i reolau’r gêm yn addo cynnig llwyfan ehangach i’r chwaraewyr ddangos eu talentau. Felly, amdani at dymor newydd yr URC.
Dydd Sadwrn 25 Medi
Caeredin v Scarlets – CG 17.15 (yn fyw ar S4C)
Y datblygiad mawr ym Mharc y Scarlets dros yr haf oedd gweld Dwayne Peel yn dychwelyd i’r clwb i gymryd y swydd prif hyfforddwr.
Mae gobeithion mawr am botensial cyn mewnwr Cymru fel hyfforddwr wedi iddo ennill clod mawr yn ystod ei amser fel hyfforddwr yn Ulster.
Yn ei ddilyn i Lanelli mae cyn hyfforddwr amddiffyn Leinster, Hugh Hogan, ac mae llawer yn credu fod ei benodiad yn un craff dros ben, un all wneud y Sosban yn dîm llawer iawn anoddach i sgorio yn ei herbyn.
Newid mawr arall yw penodi Jonathan Davies fel capten y clwb, i gymryd drosodd gan Ken Owens, oedd yn y rôl am saith mlynedd.
Mae sawl hen wyneb arall wedi dychwelyd i’r rhanbarth hefyd, gan gynnwys Scott Williams, Corey Baldwin a Tom Price, tra bod Tomas Lezana a WillGriff John yn wynebau newydd sydd wedi ymuno dros yr haf.
Ar ôl perfformiadau addawol gan y Scarlets cyn dechrau’r tymor, mi fyddan nhw’n teithio i Gaeredin mewn hwyliau da ac yn benderfynol o wella ar eu canlyniadau'r tymor diwethaf.
Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C gyda’r Clwb Rygbi.
Dydd Sul 26 Medi
Dreigiau v Gweilch – CG 14.00 (I’w gweld yn llawn am 22.00 ar S4C nos Sul)
Mae hwn yn dymor cyffrous i’r Dreigiau ac i’r Gweilch, wrth i’r ddau ranbarth anelu i barhau gyda’u datblygiad addawol.
O ran y Dreigiau, maen nhw wedi llwyddo i leddfu colledion Brok Harris a Matthew Screech yn y pac drwy arwyddo clo Cymru, Will Rowlands, yn ogystal â’r ddau brop, Mesake Doge a Aki Seiuli.
Drwy hefyd arwyddo’r canolwr rhyngwladol Cory Allen, yr asgellwr Jordan Olowofela a’r cefnwr Ioan Davies, maent wedi cryfhau eu hopsiynau ymysg yr olwyr.
Yr her i dîm Dean Ryan fydd i dynhau’r amddiffyn a chanfod y cysondeb maen nhw angen i ymdopi â chryfder y timoedd o Iwerddon, a nawr, De Affrica.
Mae’r Gweilch wedi arwyddo sawl enw mawr dros yr haf, gan gynnwys Tomas Francis, Alex Cuthbert, Jac Morgan a Michael Collins, felly bydd y disgwyliadau ar dîm Toby Booth yn cynyddu rywfaint eleni.
Gyda Gareth Anscombe yn dychwelyd i chwarae eleni ar ôl dwy flynedd allan gydag anaf i’w ben-glin, bydd presenoldeb y maswr talentog yn hwb enfawr i’r garfan yn ogystal.
Yn eu dwy gêm y tymor diwethaf, fe enillodd y Gweilch oddi cartref yn Rodney Parade, cyn i’r Dreigiau dalu’r pwyth yn ôl gyda buddugoliaeth yng Nghae’r Bragdy ym mis Mawrth.
Felly mae’r gêm ddarbi hon yn argoeli i fod yn un gystadleuol eto, rhwng dau dîm sy’n awyddus i brofi eu hunain. Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn ei chyfanrwydd am 10 o’r gloch nos Sul, ar S4C.