Newyddion S4C

Dyn i redeg ar draws bob un mynydd yng Nghymru

25/09/2021
Mind over mountains

Mae dyn 31 oed, Will Renwick, o Lancarfan ym Mro Morgannwg, yn gobeithio bod y person cyntaf i redeg 500 o filltiroedd ar hyd a lled Cymru. 

Gan deithio o’r de i’r gogledd, fe fydd Will Renwick yn rhedeg fyny 189 o fynyddoedd ar draws y wlad, gan gario’i holl eiddo mewn bag ar ei gefn am dair wythnos.

Fe gychwynnodd yr her ar 10 Medi, gyda Will, sy'n Newyddiadurwr Mynydda, yn gobeithio cwblhau'r daith erbyn 3 Hydref.

Mae Will yn defnyddio’r her i godi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl, Mind Over Mountains, sydd yn cynnig cefnogaeth i bobl â’u hiechyd meddwl drwy weithgareddau awyr agored.

Image
Mind over mountais

Dywedodd Mr Renwick: "Roedd y syniad o gael antur enfawr, sydd erioed wedi cael ei 'neud o'r blaen yn fy ngwlad enedigol, yn apelio'n fawr ataf.

"Yn enwedig pe bawn yn gwneud yr her ar gyfer elusen sydd yn agos iawn i fy nghalon i.

"Mae Mind over Mountains yn elusen fach sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl, ac rwy'n hynod o falch codi arian ar eu cyfer."

Hyd yn hyn, mae Will wedi casglu £4,500 sydd yn newyddion da i’r elusen.

Dywedodd Alex Staniforth, cyd-sylfaenydd Mind Over Mountains: "'Da ni wrth ein boddau bod Will wedi dewis cefnogi ein helusen ni, trwy her mor rhyfeddol!

"Mae hyn yn atgyfnerthu ein neges yn berffaith - drwy dreulio amser yn yr awyr agored, mae'n gwneud byd o les i ni'n gorfforol ac yn feddyliol.

"Bydd y daith yn ysbrydoli cymaint ag yn galluogi i ni helpu eraill mewn angen ac sydd angen ein cefnogaeth."

Her anoddaf ei fywyd

Ac yntau wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd, gan gynnwys cerdded hyd Sbaen, mae Will yn dweud mai dyma'r her anoddaf iddo ei wynebu erioed.

Mae bellach ar ddiwrnod 13 o'r her.

"Yn feddyliol, mae'n galed. Dwi ar gyfnod rŵan lle dwi heb weld unrhyw fath o wareiddiad ers tua phedwar, efallai pum niwrnod mewn gwirionedd. 

"Dyma'r sialens anoddaf i fi wynebu, a'r sialens anoddaf dwi'n meddwl byddai byth yn ei wynebu. Dwi'n meddwl es i mewn iddo yn gwybod y byddai'n anodd, ond, wrth edrych yn ôl, dwi jysd yn meddwl 'pam, pam nes i wneud hyn?'. Pwy yn eu iawn bwyll fyddai'n cymryd hyn ymlaen? Ond dwi'n cymryd pob dydd fel mae'n dod, ac mae hynny'n cario mi drwyddo, gam wrth gam."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.