Llofruddiaeth Sabina Nessa: Teulu'r athrawes yn rhoi teyrnged mewn gwylnos
25/09/2021Mewn gwylnos cafodd ei chynnal yn dilyn llofruddiaeth Sabina Nessa ddydd Gwener, rhannodd chwaer yr athrawes 28 oed deyrnged iddi.
“Rydyn ni wedi colli chwaer anhygoel, ofalgar, hardd, a adawodd y byd hwn yn llawer rhy gynnar,” meddai Jebina Yasmin Islam wrth y dorf enfawr yn Sgwâr Pegler yn Kidbooke, de-ddwyrain Llundain.
“Ni all geiriau ddisgrifio sut rydyn ni’n teimlo, mae hyn yn teimlo fel ein bod ni’n sownd mewn breuddwyd ddrwg ac yn methu â dod allan ohoni - mae ein byd yn chwalu, does gennym ni ddim geiriau."
Cafodd Ms Nessa ei llofruddio ger Sgwâr Pegler yn Kidbooke wrth gerdded i gwrdd ffrind.
Cafodd dyn 38 oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth ei ryddhau dan ymchwiliad yn gynharach ddydd Gwener, tra bod yr heddlu’n dal i chwilio am ddyn a gafodd ei weld ar gamera cylch cyfyng ger y lleoliad.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Twitter/ MuradMerali
