Cynllunio i ddarparu fisa dros dro i yrwyr lorïau o dramor i leddfu ciwiau petrol
Mae disgwyl i’r llywodraeth gyflwyno newidiadau i’r system fisa a fyddai’n caniatáu i filoedd o yrwyr lorïau tramor weithio yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y mesurau dros dro yn cael eu hanelu at yrwyr lorïau HGV o dramor, er mwyn mynd i’r afael â'r prinder gyrwyr sydd wedi'u beio am achosi ciwiau mewn gorsafoedd petrol a phrinder mewn rhai eitemau bwyd.
Daw hyn ar ôl i gwmnïau BP a Tesco benderfynu cau rhai o’u gorsafoedd petrol ar draws y Deyrnas Unedig oherwydd diffyg cyflenwadau tanwydd.
Yn ôl Sky News, ddydd Gwener, cynhaliwyd sgyrsiau brys rhwng gweinidogion i drafod sut i fynd i’r afael â’r prinder o fwy na 100,000 o yrwyr lorïau.
Mae Llywodraeth y DU wedi mynnu y byddai unrhyw newid yn “gyfyngedig iawn o ran amser” a chredir bod Boris Johnson wedi caniatáu i weinidogion lacio rheolau mewnfudo’r DU i ddod â’r cynllun fisa i mewn.
Darllenwch y stori’n llawn yma.