Dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf
24/09/2021
Mae dynes oedd mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf wedi marw.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad i'r eiddo ar Ffordd Tyntyla, Tonypandy ddydd Mawrth, 21 Medi.
Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn parhau i ymchwilio.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah Lewis: “Mae hwn yn newyddion trist a thrasig ac mae fy meddyliau gyda theulu’r fenyw ar yr amser anodd hon.
“Ein rôl ni yw ymchwilio’n llawn i’r amgylchiadau a arweiniodd at y tân a pharatoi ffeil dystiolaeth ar gyfer cwest yn y dyfodol.”
Llun: Google