Newyddion S4C

Rhagolwg gemau rhanbarthau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig

24/09/2021
Pêl gron rygbi

Roedd y tymor diwethaf yn un hir a phrysur i ranbarthau rygbi Cymru, ond ar ôl cael seibiant dros yr haf, mi fyddan nhw’n dychwelyd i’r maes y penwythnos hwn yn barod am y tymor newydd.

Byddan nhw’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd - Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig - cynghrair sy’n cynnwys yr 16 tîm gorau o Gymru, Yr Alban, Iwerddon, Yr Eidal a nawr, De Affrica.

Mae’r newidiadau cyffrous i’r bencampwriaeth ac addasiadau i reolau’r gêm yn addo cynnig llwyfan ehangach i’r chwaraewyr ddangos eu talentau. Felly, amdani at dymor newydd yr URC.

Dydd Gwener 24 Medi

Caerdydd v Connacht – CG 19.35

Allwn ni ddim sôn am newidiadau mawr heb grybwyll yr haf chwyldroadol sydd wedi digwydd ym Mharc yr Arfau.

Wedi gollwng y gair Gleision o’u teitl ac ail-fabwysiadu enw a hunaniaeth yr hen glwb, bydd y tîm yn gobeithio ennyn ysbryd hanesyddol Clwb Caerdydd drwy wisgo’r crysau du a glas enwog unwaith eto.

A phwy well i arwain y tîm drwy’r cyfnod hwn nag un o’u harwyr o’r gorffennol, y cyfarwyddwr rygbi Dai Young.

Wedi serennu dros y clwb fel chwaraewr a threulio amser yn y brif swydd fel hyfforddwr y Gleision, bydd neb yn fwy cyfarwydd ag ymwybodol o allu’r rhanbarth na Dai. Wedi cael ei benodi yng nghanol y tymor diwethaf, bydd yr ymgyrch newydd yn gyfle iddo roi ei stamp ar y tîm.

Mae’r gêm agoriadol yn addo i fod yn un tanllyd, rhwng dau dîm sydd ddim yn ofn i ledu’r bêl. Mae Young wedi dewis Rhys Priestland a Lloyd Williams i ffurfio partneriaeth brofiadol yn yr haneri, a fydd ganddyn nhw rôl hollbwysig i’w chwarae, drwy geisio rheoli’r diriogaeth a rhyddhau’r olwyr bygythiol.

Mae Matthew Screech hefyd yn cychwyn yn yr ail reng wedi iddo ail-arwyddo i’r rhanbarth o’r Dreigiau.

Dydd Sadwrn 25 Medi

Caeredin v Scarlets – CG 17.15 (yn fyw ar S4C)

Y datblygiad mawr ym Mharc y Scarlets dros yr haf oedd gweld Dwayne Peel yn dychwelyd i’r clwb i gymryd y swydd prif hyfforddwr.

Mae gobeithion mawr am botensial  cyn mewnwr Cymru fel hyfforddwr wedi iddo ennill clod mawr yn ystod ei amser fel hyfforddwr yn Ulster.

Yn ei ddilyn i Lanelli mae cyn hyfforddwr amddiffyn Leinster, Hugh Hogan, ac mae llawer yn credu fod ei benodiad yn un craff dros ben, un all wneud y Sosban yn dîm llawer iawn anoddach i sgorio yn ei herbyn.

Newid mawr arall yw penodi Jonathan Davies fel capten y clwb, i gymryd drosodd gan Ken Owens, oedd yn y rôl am saith mlynedd.

Mae sawl hen wyneb arall wedi dychwelyd i’r rhanbarth hefyd, gan gynnwys Scott Williams, Corey Baldwin a Tom Price, tra bod Tomas Lezana a WillGriff John yn wynebau newydd sydd wedi ymuno dros yr haf.

Ar ôl perfformiadau addawol gan y Scarlets cyn dechrau’r tymor, mi fyddan nhw’n teithio i Gaeredin mewn hwyliau da ac yn benderfynol o wella ar eu canlyniadau'r tymor diwethaf.

Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C gyda’r Clwb Rygbi.

Dydd Sul 26 Medi

Dreigiau v Gweilch – CG 14.00 (I’w gweld yn llawn am 22.00 ar S4C nos Sul)

Mae hwn yn dymor cyffrous i’r Dreigiau ac i’r Gweilch, wrth i’r ddau ranbarth anelu i barhau gyda’u datblygiad addawol.

O ran y Dreigiau, maen nhw wedi llwyddo i leddfu colledion Brok Harris a Matthew Screech yn y pac drwy arwyddo clo Cymru, Will Rowlands, yn ogystal â’r ddau brop, Mesake Doge a Aki Seiuli.

Drwy hefyd arwyddo’r canolwr rhyngwladol Cory Allen, yr asgellwr Jordan Olowofela a’r cefnwr Ioan Davies, maent wedi cryfhau eu hopsiynau ymysg yr olwyr.

Yr her i dîm Dean Ryan fydd i dynhau’r amddiffyn a chanfod y cysondeb maen nhw angen i ymdopi â chryfder y timoedd o Iwerddon, a nawr, De Affrica.

Mae’r Gweilch wedi arwyddo sawl enw mawr dros yr haf, gan gynnwys Tomas Francis, Alex Cuthbert, Jac Morgan a Michael Collins, felly bydd y disgwyliadau ar dîm Toby Booth yn cynyddu rywfaint eleni.

Gyda Gareth Anscombe yn dychwelyd i chwarae eleni ar ôl dwy flynedd allan gydag anaf i’w ben-glin, bydd presenoldeb y maswr talentog yn hwb enfawr i’r garfan yn ogystal.

Yn eu dwy gêm y tymor diwethaf, fe enillodd y Gweilch oddi cartref yn Rodney Parade, cyn i’r Dreigiau dalu’r pwyth yn ôl gyda buddugoliaeth yng Nghae’r Bragdy ym mis Mawrth.

Felly mae’r gêm ddarbi hon yn argoeli i fod yn un gystadleuol eto, rhwng dau dîm sy’n awyddus i brofi eu hunain. Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn ei chyfanrwydd am 10 o’r gloch nos Sul, ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.