Newyddion S4C

Siom un o sêr rygbi merched Cymru wrth ddychwelyd i statws amatur

ITV Cymru 24/09/2021
Joyce

Mae un o dalentau mwyaf rygbi Cymru wedi dweud ei bod hi’n siomedig y bydd hi heb gytundeb proffesiynol pan fydd ei chytundeb presennol yn dod i ben ym mis Rhagfyr.

Mae Jasmine Joyce wedi gwneud argraff fawr ar wrthwynebwyr a chefnogwyr gyda'i chyflymder.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae clip ohoni yn gwneud tacl wyrthiol i atal cais wedi’i weld gannoedd o filoedd o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae'r chwaraewr 25 oed gyda chytundeb i chwarae i dîm saith bob ochr menywod Prydain Fawr.

Hi oedd un o sêr y Gemau Olympaidd yn Tokyo, gan sgorio saith cais i’w thîm gan ddod yn agos at sicrhau medal.

Ond bydd ei chyfnod gyda'r tîm yn dirwyn i ben ar ddiwedd y flwyddyn, pan fydd tîm Prydain Fawr yn cael ei ddiddymu, ac fe fydd Joyce yn dychwelyd i Gymru.

"Rwy'n hollol gutted efallai na fyddaf yn mynd yn llawn amser," meddai.

"Pwy a ŵyr? Ym mis Ionawr efallai y bydd gen i gontract, ond cyn belled ag yr wyf yn gwybod byddaf yn mynd yn ôl i orffen fy ngradd hyfforddi i fod yn athrawes."

Ychwanegodd: "Rwy'n byw'r freuddwyd ar hyn o bryd ac wedi bod ers mis Mawrth pan ddechreuais i fel chwaraewr rygbi llawn amser - dyna beth rydw i eisiau ei wneud, dyna pwy rydw i eisiau bod.

"Mae'n drist iawn nad yw chwaraewyr fel fi, a llawer o chwaraewyr eraill, yn cael chwarae ar lwyfan y byd a ddim cael y cyfle hwnnw i fyw'r freuddwyd fel chwaraewr rygbi proffesiynol."

Image
Jasmine

Llwyddodd Joyce i ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol gyda thîm Prydain Fawr gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.

Nid yw Undeb Rygbi Cymru yn cynnig cytundebau taledig i chwaraewyr benywaidd, felly er ei bod wrth ei bodd yn cynrychioli ei gwlad, mae'n golygu dychwelyd yn ôl i statws amatur ym mis Rhagfyr.

"Mae'n anodd iawn cydbwyso swydd a rygbi. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn chwaraewr llawn amser ers mis Mawrth, mae hynny wedi fy helpu cymaint yn feddyliol ac yn gorfforol,” meddai.

"Mae fe wedi helpu fi i ddod yn well chwaraewr rygbi, ond mae hefyd wedi helpu fi i fwynhau bywyd yn fwy.

"Gallaf ganolbwyntio ar rygbi yn unig, canolbwyntio ar adferiad, a chanolbwyntio ar fy lles meddyliol ar ddiwedd hynny hefyd - gan sicrhau bod gen i amser i ymlacio a gorffwys.

"Nid yw gwneud y ddau yn gynaliadwy. Mae pobl yn gadael ac nid yw pobl yn dangos yr hyn y maen nhw'n wirioneddol yn gallu neud."

Cefnogaeth 'hollol enfawr'

Er gwaethaf yr anawsterau personol, dywedodd Joyce ei bod hi’n hyderus bod rygbi menywod yn mynd mewn i'r cyfeiriad cywir ac mae'r ymateb gan gefnogwyr ar gyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu hynny.

“Mae'r gefnogaeth a ddaw yn sgil cyfryngau cymdeithasol yn hollol enfawr.

"Fel menyw sy’n chwarae rygbi gallwn ni gael llawer o gamdriniaeth a llawer o sylwadau negyddol, ond mae'r holl sylwadau rydw i wedi'u cael o'r penwythnos i gyd wedi bod yn gadarnhaol.”

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi addo cywiro rhai o’r camgymeriadau a wnaed gyda gêm y merched yng Nghymru.

Yn adroddiad blynyddol yr undeb, sydd wedi ei gyhoeddi yr wythnos hon, dywedodd y cadeirydd, Rob Butcher: "Rydyn ni'n gwybod nad oes gennym ni bopeth yn iawn oddi ar y cae er mwyn galluogi ein menywod hŷn i berfformio arno fe."

"Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni welliannau i'w gwneud, ond y cam cyntaf tuag at unrhyw ddatrysiad yw nodi'r broblem ac mae gennym ni fesurau ar waith i wneud hynny. Y cam nesaf yw sicrhau bod yr adnoddau, y meddylfryd a'r personél ymroddedig ar waith i ddyfeisio'r ffordd ymlaen a gweithredu'r newid angenrheidiol. "

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb hefyd wrth Newyddion ITV: "Mae Cyfarwyddwr Perfformiad URC, sydd newydd ei benodi, Nigel Walker wedi ei gwneud yn glir y bydd perfformiad rygbi menywod ymhlith ei flaenoriaethau pan fydd yn ymgymryd â'r rôl yn swyddogol ddiwedd y mis Medi ac maen nhw eisoes wedi dechrau chwilio am brif hyfforddwr menywod newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.