Newyddion S4C

Bachgen tair oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ar fferm

Wales Online 24/09/2021
Ianto Sior Jenkins

Mae'r cwest wedi agor yn achos marwolaeth bachgen tair oed ar fferm yn Sir Benfro.

Clywodd y cwest y bu farw Ianto Jenkins ar Awst 3 yn Rhosfach, Efailwen, yn ardal Clunderwen, wedi iddo gael ei daro gan gerbyd.

Cafodd y cwest ei agor yn Neuadd Tref Llanelli ddydd Gwener ac fe glywodd y cwest y bu Ianto farw yn y fan a'r lle yn fuan wedi'r digwyddiad, a oedd yn cynnwys "peirianwaith ffermio", yn ôl WalesOnline.

Cafodd y cwest ei ohirio am gyfnod o bedwar mis.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.