Newyddion S4C

Troseddau cyllyll 'wedi mwy na dyblu' mewn degawd yng Nghymru

Newyddion S4C 24/09/2021
Troseddau cyllyll

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae troseddau cyllyll wedi mwy na dyblu yng Nghymru. A gyda chyfyngiadau Covid wedi llacio, mae perygl y gallai pethau waethygu ymhellach.

Dyna'r rhybudd gan un elusen sydd wedi siarad gyda rhaglen Newyddion S4C am y sefyllfa.

Rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011, cofnodwyd 700 trosedd gyda chyllyll neu arf miniog gan heddluoedd Cymru. Rhwng Ebrill 2020 a diwedd Mawrth eleni, roedd y ffigwr yn 1,461.

Mae'r cynnydd o fwy na 100% yn cyfateb i bedair trosedd ddyddiol drwy Gymru yn gysylltiedig â chyllyll.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol, gyda gostyngiad o 1% - ond mae cyfnodau clo a chyfyngiadau Covid yn ffactorau yn hynny o beth.

Gyda chyfyngiadau wedi diflannu mwy na heb, mae cynrychiolwyr corff ymgyrchu PTKD (Put The Knives Down) ag elusen Street Doctors yn rhybuddio y gallai pethau waethygu ymhellach.

Codi ymwybyddiaeth am ddifrifoldeb a sgil effeithiau troseddau cyllyll yw nod PTKD. Mae ganddyn nhw hefyd linell ffôn sydd ar agor 24/7 ac yn cynnig cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau o'r fath.

Image
PTKD
Elle Powell

Dywedodd Elle Powell, sy'n gwirfoddoli i'r corff wrth Newyddion S4C: "Wrth i bethau ailagor, ry'n ni'n derbyn mwy o alwadau ffôn. Ry'n ni'n poeni bod lefelau trosedd yn cynyddu unwaith eto. Ni ddim eisiau i hynny ddigwydd."

Astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd mae Evie Wateridge, ond mae hefyd yn gwirfoddoli gydag elusen Street Doctors, sydd yn cynnal sesiynau gyda phobl ifainc am beryglon cario cyllell yn ogystal â chynnig hyfforddiant cymorth cyntaf ar sut i drin claf sydd wedi ei drywanu.

Wrth siarad mewn sesiwn hyfforddi yn Nhredelerch, dwyrain Caerdydd, dywedodd hi hefyd wrth Newyddion S4C bod y sefyllfa o ran troseddau cyllyll yn debygol o waethygu:

"Ry'n ni'n poeni'n fawr am droseddau cyllell. Nid yng Nghaerdydd yn unig, ond drwy'r Deyrnas Gyfunol.

"Llynedd, fe gyhoeddodd Street Doctors adroddiad yn ymchwilio i effaith y pandemig ar bobl ifainc. Darganfyddodd yr adroddiad hwnnw bod cefnogaeth i bobl ifainc wedi lleihau yn ddramatig. Mae hynny'n eu gwneud nhw'n fwy bregus ac agored i drais, felly ry'n ni'n poeni yn fawr ar hyn o bryd."

"Ry'n ni'n gwybod i drais y tu allan i'r cartref gwympo yn ystod y pandemig gan fod pethau ynghau, ond wrth i bethau ailagor, allwn ni ddisgwyl gweld hynny'n codi unwaith eto."

Image
Ged
Mae Ged Bermingham yn gobeithio y bydd siarad am farwolaeth ei frawd yn codi ymwybyddiaeth am beryglon cario cyllyll 

Un dyn sydd wedi byw drwy effeithiau dinistriol trywanu yw Ged Bermingham. Ym mis Mehefin 2004, llofruddiwyd ei frawd Adrian yn ardal Glan yr Afon o Gaerdydd.

Wrth ailymweld â'r union fan lle bu farw ei frawd, esboniodd Ged fod marwolaeth ei frawd wedi cael effaith pellgyrhaeddol arno.

"Mae pobl yn siarad am dor-calon. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor llythrennol yw hynny. Mae dy galon yn llythrennol yn torri. Mae fel petai rhywun wedi rhwygo twll yn eich brest chi."

"Ddaeth fy rhieni byth dros yr hyn ddigwyddodd - mae'r ddau ohonyn nhw bellach wedi marw. Ond 17 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i frifo i'r byw." 

"Dyw e byth yn diflannu - a pham byddai e? Mae'n derfynol. Mae marwolaeth yn derfynol. A dyw trywanu byth yn mynd i orffen yn dda."

26 oed oedd Adrian, yn dychwelyd o noson allan. Roedd ar fin dychwelyd i hyfforddi gyda'r Royal Marines cyn cael ei anfon i Irac. Ac i'w frawd, mae amgylchiadau ei farwolaeth yn boenus o hyd.

Image
Adrian
Cafodd Adrian Bermingham ei lofruddio yng Nghaerdydd yn 2004

"O'r achos llys, oedd yn bythefnos o uffern, dwi'n gwybod i fenyw ifanc weld y cyfan o'r fflatiau yma tu ôl i fi. Dywedodd hi bod y gyllell wedi torri ei wddf. Mae'n swnio fel petai hynny wedi niweidio ei nerfau neu ewynnau (tendons). Doedd e ddim yn codi ei fraich dde - ei law gryfaf."

"Ry'n ni'n gwybod iddo fe gael ofn achos fe driodd e ffonio 999, yn ei boced neu wrth ei ochr. Dywedodd tystion iddyn nhw weld golau'r ffôn. Ond er bod galwad ac iddi gael ei hateb, doedd dim allen nhw wneud achos oedd neb ar ochr arall y ffôn."

"Drywanodd e fy mrawd yn ei frest, gan dorri'r aorta o'i galon, wedyn neidio lan a lawr ar ei ben.

"Welodd y ferch ifanc yma y cwbl. Roedd hi yn ei dagrau yn y llys, a'r rheithgor yn llefain gyda hi hefyd."

Cafwyd yr ymosodwr yn euog o lofruddio, gan dderbyn dedfryd oes, gyda lleiafrif o 16 mlynedd dan glo.

Mae Ged Bermingham nawr yn benderfynol o rybuddio am beryglon posibl cario cyllell drwy son am farwolaeth ei frawd.

Ac mae'n dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn pwysleisio'r angen am ymateb.

"Mae'n profi bod pethau'n gwaethygu. Mae'n bryd gwneud rhywbeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.