Bachgen naw oed a gafodd strôc yn cwblhau her i godi arian

Mae bachgen naw oed a gafodd strôc yn cwblhau her gerdded er mwyn codi arian i gael parc newydd i’r pentref.
Cafodd Ryley Reed strôc wrth seiclo gyda’ i fam ger eu cartref yn Llangors, Aberhonddu.
Yn ôl The National, mae Ryley eisoes wedi codi dros £2,500 i gael parc chwarae wrth gychwyn ar yr her i gerdded 40 o filltiroedd o amgylch yr ardal leol, sy’n gyfwerth â’r daith i gopa Everest.
Dywedodd ei fam, Kate: “Mae pethau fel cael siglen a llithren i gyd yn helpu gyda’r broses o adfer a bydden ni fel arfer yn mynd i bentrefi a threfi arall i ddefnyddio eu parciau. Felly gwnaeth Ryley benderfynu ei fod eisiau codi arian er budd y gymuned leol fan hyn.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun y teulu drwy Facebook