Steffan Powell yn ymuno â Naga Munchetty i gyd-gyflwyno BBC Radio 5 Live Breakfast
Mae'r darlledwr o Sir Gâr, Steffan Powell, wedi cael ei gyhoeddi fel cyd-gyflwynydd newydd rhaglen frecwast BBC Radio 5 Live ochr yn ochr â Naga Munchetty.
Bydd y ddau yn dechrau cyflwyno'r rhaglen ganol mis Ionawr 2027, ar ôl i'r cyflwynwyr presennol, Rachel Burden a Rick Edwards, gyflwyno'u rhaglenni olaf mis Rhagfyr.
Mae Powell, sy'n hanu o Gwm Aman, eisoes yn cyd-gyflwyno rhaglen frecwast yr orsaf ar ddydd Gwener a dydd Sul.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd ei fod wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at yr her newydd.
"Mae gan BBC Radio 5 Live le arbennig yn fy nghalon," meddai.
"Mae'n un o'r rhesymau pam wnes i hyfforddi i fod yn newyddiadurwr, ac mae cael fy nhrystio i ofalu am ei rhaglen frecwast flynyddoedd yn ddiweddarach yn fraint.
"Alla i ddim aros i ddechrau, ac mae cael eistedd ochr yn ochr ag un o gewri newyddiaduraeth Prydain bob dydd yn mynd i fod yn bleser.
"Pwy well i gael paned o de gyda nhw yn y bore wrth fynd i'r afael â'r materion mawr na Naga Munchetty?"
Dywedodd Powell y byddai'r ddau yn rhoi gwrandawyr yn gyntaf ac yn ceisio gwneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd yn y byd.
Cyn ymuno â BBC Radio 5 Live, fe dreuliodd wyth mlynedd yn gyflwynydd ac yn uwch ohebydd ar raglen Newsbeat BBC Radio 1.
Ym mis Hydref, fe gafodd ei gyhoeddi fel cyflwynydd newydd Y Llais ar S4C, gan gymryd lle Sian Eleri ar gyfer trydedd gyfres y rhaglen yn 2027.
Mae hefyd wedi cyflwyno cyfresi Pawb a'i Farn a Colli Cymru i'r Môr ar S4C.
Dywedodd Richard Maddock, pennaeth BBC Radio 5 Live, fod Powell wedi bod yn aelod gwerthfawr o dîm yr orsaf ers blynyddoedd.
"Mae'n ddarlledwr gwych gyda greddf newyddiadurol graff, brwdfrydedd heintus a gallu gwirioneddol i gysylltu â chynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig," meddai.
Bydd Rachel Burden yn symud i gyflwyno rhaglen newydd rhwng 11:00 a 14:00 o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Bydd Rick Edwards yn parhau i gyflwyno Fighting Talk ar ddydd Sadwrn ac yn cyfrannu at raglenni chwaraeon a newyddion yr orsaf.
