Steffan Powell i gyflwyno trydedd gyfres Y Llais
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Steffan Powell yw cyflwynydd newydd rhaglen boblogaidd Y Llais.
Bydd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd yn cyflwyno'r drydedd gyfres, a fydd yn cychwyn yn 2027.
Fe fydd yn ymuno â'r hyfforddwyr Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, Syr Bryn Terfel ac Yws Gwynedd, sy’n dychwelyd i’r cadeiriau coch eiconig.
Mae Steffan yn llais cyfarwydd i wrandawyr ar draws y Deyrnas Unedig fel newyddiadurwr a chyflwynydd BBC Radio 1 Newsbeat a’r Sioe Frecwast ar BBC Radio 5 Live.
Ar deledu, mae wedi cyflwyno’r gyfres y tu ôl i’r llenni Doctor Who: Unleashed ar BBC Three. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i wylwyr The One Show ar BBC One ac i gynulleidfaoedd S4C wrth gyflwyno cyfresi fel Symud i Gymru a Colli Cymru i’r Môr.
Fel ffan mawr o gemau cyfrifiadurol, mae Steffan hefyd wedi creu ac yn cyflwyno’r podlediad Press X to Continue, gan gyfweld â sêr rhyngwladol amlwg fel Keanu Reeves ac Usain Bolt.
Wrth baratoi i ymuno â’r gyfres, dywedodd Steffan Powell: "Dwi wrth fy modd i fod yn ymuno â thîm Y Llais!
"Ma' fe mor braf gweld talent Cymraeg yn cael y cyfle i serennu ar gyfres fyd-enwog, a dwi methu aros i weld pwy fydd y person nesa' i godi gwefr ar y gynulleidfa."
'Braint fwyaf'
Mae Steffan Powell yn cymryd lle Sian Eleri, sydd wedi cyflwyno'r ddwy gyfres gyntaf.
Dywedodd y gyflwynwraig fod gallu gweithio ar y gyfres "wedi golygu'r byd" iddi.
“Mae bod yn gyflwynydd cyntaf Y Llais wedi bod yn fraint fwyaf fy mywyd," meddai.
"Mae dathlu talent Cymreig a bod yn rhan o roi llwyfan i leisiau newydd o fewn brand byd-eang eiconig wedi golygu'r byd i mi. O densiwn y botymau coch i'r cyffro pan fo'r cadeiriau'n troi, mae hi wedi bod yn wirioneddol fythgofiadwy.
"Diolch o galon i'r tîm bendigedig. Dwi wrth fy modd â Steffan, a dwi methu aros i'w weld o wrthi a gweld yr holl artistiaid anhygoel yng Nghyfres 3!"
Mae Y Llais yn fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice. Mae’r fformat yn perthyn i ITV Studios, ac mae fersiynau o’r gyfres yn cael eu darlledu ar hyn o bryd mewn 77 o diriogaethau.