Naw o bobl wedi'u lladd ar ôl i jet blymio i'r ddaear yn Florida
Mae naw o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i jet blymio o'r awyr i'r ddaear yn Florida.
Fe aeth yr awyren i lawr ger cymuned Cresthaven tua 12:50 ddydd Sul.
Roedd hi wedi cychwyn o Austin, Texas, ac ar ei ffordd i'r Bahamas.
Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn yr Unol Daleithiau a dadansoddiadau o’r hediad yn awgrymu bod y jet yn plymio cannoedd o droedfeddi bob eiliad cyn taro'r ddaear.
Mae fideo hefyd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ymddangos fel pe bai wedi'i recordio gan gamera dashcam.
Mae'r ffilm yn dangos cerbydau'n teithio ar hyd stryd mewn ardal breswyl, cyn i awyren blymio'n sydyn tuag at y ddaear bron yn fertigol a ffrwydro'n belen enfawr o dân. Dyw'r fideo ddim wedi ei ddilysu.
Nid yw'n glir eto pwy oedd y teithwyr ar y jet, ond mae pob un o'r naw person oedd ar ei bwrdd wedi cael eu lladd.
Yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr Unol Daleithiau, Sean Duffy, mae'r hyn sydd wedi digwydd yn "drasiedi ofnadwy".
Ychwanegodd fod swyddogion o Weinyddiaeth Hedfan Ffederal yr Unol Daleithiau wedi cael eu hanfon i'r lleoliad. Fe fyddan nhw yn cynorthwyo Bwrdd Diogelwch Trafnidiaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau gyda'r ymchwiliad.
Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd swyddogion fod 600 o drigolion yn cael eu symud o barc trelars gerllaw.
Cafodd difrod sylweddol ei achosi i seilwaith lleol, gan gynnwys pibellau dŵr, ac nid oes disgwyl i'r ffordd ailagor am o leiaf 30 diwrnod.
