Cam-drin dyfarnwyr ‘ar ei waethaf erioed’, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Y Byd ar Bedwar

Cam-drin dyfarnwyr ‘ar ei waethaf erioed’, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae camdriniaeth tuag at ddyfarnwyr pêl-droed yng Nghymru “yn waeth nag y bu erioed” yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Ceri Williams o adran dyfarnwyr y Gymdeithas: “Rydyn ni’n gweld cynnydd enfawr yn nifer yr achosion o gam-drin dyfarnwyr, ac yn gweld effaith enfawr o ran dyfarnwyr yn gadael y gêm.”

Ychwanegodd: “Dwi wir yn credu bod cysondeb yr adroddiadau rydyn ni’n eu gweld ar hyn o bryd yn waeth nag erioed.”

Mae’n sefyllfa bryderus i ddyfarnwyr ifanc yn arbennig, meddai Ceri.

“Mae’r hyn y mae swyddogion dan 18 yn gorfod delio ag ef gan oedolion yn gwbl syfrdanol… d’yw e ddim yn amgylchedd diogel [iddyn nhw] ar hyn o bryd,” meddai.

Yn ôl ffigurau mewnol sydd wedi’u casglu gan y Gymdeithas, mae un ymhob pedwar dyfarnwr yng Nghymru wedi profi camdriniaeth gorfforol. 

Yn ogystal, mae un ymhob tri dyfarnwr sy’n penderfynu peidio ag ailgofrestru ar gyfer y tymor canlynol yn nodi mai camdriniaeth yw’r prif reswm dros roi’r gorau iddi. 

Image
Ceri Williams, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Ceri Williams, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Ymosodiadau difrifol ar y cae

Un sydd wedi dioddef ymosodiad ar gae pêl-droed yw Mark Bowen o’r Barri, sy’n ddyfarnwr ers 25 mlynedd. 

Fis Hydref 2024, yn dilyn gêm gwpan rhwng Rumney Dragons ac Elite Eleven yn Llaneirwg, Caerdydd, fe wnaeth cefnogwr o’r enw Elliott Bessant ymosod arno.

Yn ôl Mark, fe ddaeth Mr Bessant ar y cae ar ôl y gêm, cyn ei fygwth, a rhedeg ar ei ôl.

“Yn anffodus, roedd e’n gyflymach na fi," meddai.

“Dwi’n cofio fe’n cico fi ar waelod fy nghoes, wedyn nes i gwympo a glanio ar y llawr. 

“Ar y pwynt hwnnw, ro’n i’n ofn dros ben.”

Fe aeth Mark i’r ysbyty wedi’r ymosodiad lle cadarnhaodd y meddyg ei fod wedi torri asen. 

Yn sgil y boen, fe wnaeth Mark goll tair wythnos o waith, a saith wythnos o ddyfarnu.

Fis Hydref 2026 yn Llys y Goron Caerdydd, fe wnaeth Elliott Bessant bledio’n euog i achosi gwir niwed corfforol (ABH). 

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 19 Tachwedd.

Yn sgil yr ymosodiad, cafodd Mr Bessant hefyd ei wahardd rhag cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn ymwneud â phêl-droed gan Gymdeithas Bêl-droed De Cymru am gyfnod o ddwy flynedd. 

Fodd bynnag, mae Mark yn teimlo nad yw hyn yn mynd ddigon pell.

“Yn fy marn i, mae’n haeddu o leiaf pum mlynedd mas o’r gêm,” meddai.

“Dylai pawb allu dod i gêm bêl-droed a theimlo’n saff.”

Image
Mark Bowen gyda Gohebydd Y Byd ar Bedwar, Siôn Jenkins
Mark Bowen gyda Gohebydd Y Byd ar Bedwar, Siôn Jenkins

'Neb yn haeddu beth ddigwyddodd i fi'

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed De Cymru, roedd rhaid i’r panel disgyblu ystyried y dystiolaeth oedd ar gael iddyn nhw adeg y gwrandawiad disgyblu yn Chwefror 2025, gan gynnwys ymateb Elliott Bessant, na’th wadu unrhyw gyswllt corfforol bwriadol â Mark. 

Ma’ nhw’n ychwanegu nad o’n nhw’n ymwybodol o euogfarn Elliott Bessant bryd hynny, a bod unrhyw drais yn erbyn dyfarnwyr yn annerbyniol.

Mae Mark yn bryderus am yr effaith mae’r gamdriniaeth yn ei gael ar nifer y bobl sy’n penderfynu dyfarnu.

“Mae’n broblem ledled y byd. Mae recriwtio yn un peth, mae cadw dyfarnwyr yn beth arall,” meddai.

“Mae’n warthus ei fod yn digwydd o gwbl. Does neb yn haeddu beth ddigwyddodd i fi - dim chwaraewr, dim dyfarnwr, dim cefnogwr.”

'Mwy i'w wneud'

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhannu ystadegau newydd gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar sydd heb gael eu cyhoeddi o’r blaen. 

Mae’r rhain yn dangos bod adroddiadau o drais ymhlith cefnogwyr a rhieni yn ardal Gwent wedi dyblu dros dri thymor, gydag 80 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi yn yr ardal y llynedd.

Roedd 14 adroddiad o gamdrin geiriol difrifol yn ardal Cymdeithas Bêl-droed Gorllewin Cymru y tymor diwethaf hefyd.

Fe ddaw hyn wrth i ddyfarnwyr yng Nghaerdydd wrthod dyfarnu eu gemau yn ddiweddar, fel protest yn erbyn camdriniaeth, a chynghrair yn Sir Gâr yn tynnu eu dyfarnwyr yn sgil swyddog ifanc yn derbyn camdriniaeth ddifrifol.

Mae angen i awdurdodau pêl-droed fynd i’r afael â’r broblem, meddai Mark.

“Dwi’n disgwyl i bob awdurdod fod mor llym â phosib - (ddylai bod) dim goddefgarwch tuag at drais a chamdriniaeth tuag at swyddogion,” meddai.

Dywedodd Ceri Williams o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod yn meddwl bod “wastad mwy allwn ni ei wneud”.

“Rydyn ni'n gweithio gyda'r cymdeithasau rhanbarthol oherwydd, yn y pen draw, rydyn ni eisiau gwneud y gêm mor ddiogel â phosib i'n dyfarnwyr ni,” meddai.

“Os yw rhywun yn ymddwyn yn dreisgar tuag at ddyfarnwr sy’n golygu bod rhaid i’r dyfarnwr hwnnw fynd i’r ysbyty, dydyn ni ddim eisiau’r bobl hynny yn rhan o’n gêm.”

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Y Chwiban Olaf? Ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.