Môn: Dyn 61 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth

Ffordd Morawelon Caergybi

Mae dyn 61 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yng Nghaergybi, Ynys Môn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i eiddo ar Ffordd Morawelon yn y dref am 03:49, yn dilyn adroddiadau am argyfwng meddygol.

Cafodd yr heddlu eu galw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, oedd wedi derbyn adroddiad am y digwyddiad.

Fe gafodd dyn 61 oed ei arestio wedi hynny ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad ar y gweill i sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney nad oes bygythiad i'r gymuned ehangach.

"Hoffwn dawelu meddyliau'r cyhoedd ein bod yn trin hwn fel digwyddiad unigol, ac nad oes unrhyw fygythiad parhaus i'r gymuned ehangach," meddai.

"Bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal dros y 24 awr nesaf wrth i dditectifs barhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.

"Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein cynorthwyo i gysylltu â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod O178536."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.