Sir Gâr: Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriadau ar gau pedair ysgol
Mae cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo'n unfrydol gynnal ymgynghoriadau ar gynigion i gau pedair ysgol gynradd Gymraeg yn y sir.
Fe wnaeth aelodau'r cabinet gefnogi'r cynigion ar gyfer Ysgol Blaenau ger Llandybie, ac Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen yng Nghwm Gwendraeth, mewn cyfarfod fore Llun.
Yn ystod y cyfarfod, fe ddaeth i'r amlwg bod niferoedd disgyblion dwy o'r ysgolion wedi gostwng ymhellach ers mis Ionawr, gyda 21 o blant bellach yn Ysgol Blaenau ac 16 yn Ysgol Pontiets.
Mae gwrthwynebiad lleol wedi bod i'r cynigion, gyda llywodraethwyr tair o'r ysgolion yn galw am atal dros dro unrhyw benderfyniadau i gau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol.
O dan y cynigion, byddai'r pedair ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr 2027, gyda'r disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion eraill o fis Ionawr 2028.
Bydd yr ymgynghoriadau'n cael eu cynnal rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr, ond nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud i gau unrhyw un o'r ysgolion.
Niferoedd disgyblion yn gostwng
Wrth gyflwyno'r cynigion, dywedodd Glynog Davies, aelod cabinet y cyngor dros addysg, fod angen sicrhau bod ysgolion y sir yn gynaliadwy yn ariannol ac yn diwallu anghenion cymunedau, nid pentrefi unigol neu rhan o bentrefi.
Yn ôl y cyngor, roedd dros 1,000 yn llai o blant o oedran ysgol gorfodol yn ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr 2026 nag yn 2021.
Roedd mwy na 3,500 o leoedd gwag ar draws 94 ysgol gynradd y sir, sef dros 20% o'r holl leoedd.
Dywedodd Mr Davies fod nifer disgyblion Ysgol Blaenau wedi gostwng o 28 ym mis Ionawr i 21 bellach, tra bod nifer disgyblion Ysgol Pontiets wedi gostwng o 21 i 16 dros yr un cyfnod.
Mae hynny'n golygu bod dros 80% o leoedd Ysgol Pontiets bellach yn wag.
Mae dogfennau'r cyngor hefyd yn dangos bod nifer sylweddol o blant sy'n byw yn nalgylchoedd yr ysgolion yn mynychu ysgolion eraill.
Ym mis Ionawr, roedd 41 o blant o ddalgylch Ysgol Blaenau a 38 o ddalgylch Ysgol Pontiets yn mynychu ysgolion eraill.
Roedd y ffigur yn uwch yn achos Ysgol Carwe, gyda 120 o blant o'r dalgylch yn mynychu ysgolion eraill, o gymharu â 37 o blant o'r dalgylch oedd ar gofrestr yr ysgol.
Yn Ysgol Bancffosfelen, roedd 23 o'r 48 disgybl ar y gofrestr yn byw yn y dalgylch, gyda 41 o blant eraill o'r dalgylch yn mynychu ysgolion eraill.
Wrth drafod ffigurau Ysgol Bancffosfelen yn benodol, dywedodd Glynog Davies: "Ni'n cydnabod y trend bod 'na bobol ar y Banc ishe mynd i Ysgol Bontyberem."
Fe wnaeth Mr Davies gydnabod hawl cyfreithiol rhieni i anfon eu plant i ysgol o'i dewis nhw.
Costau cynnal ysgolion
Mae pwysau ariannol hefyd ymhlith y rhesymau mae'r cyngor wedi'u rhoi dros y cynigion.
Mae'r awdurdod yn rhagweld diffyg ariannol o £362,566 yn Ysgol Blaenau a £80,469 yn Ysgol Pontiets erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2026/27.
Mae cyflwr adeiladau Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen hefyd yn ffactor.
Mae disgyblion Ysgol Carwe wedi bod yn cael eu haddysg yn Ysgol Gwynfryn ym Mhontiets ers mis Medi 2025, ar ôl i broblemau strwythurol olygu nad oedd adeilad yr ysgol yn ddiogel i'w ddefnyddio.
Dywedodd Glynog Davies y byddai angen gwario tua £2 filiwn i ailagor yr ysgol, ac fe wnaeth gyfeirio at y lleoedd gwag yn Ysgol Gymunedol Trimsaran, sydd wedi'i lleoli gerllaw.
Yn achos Ysgol Bancffosfelen, dywedodd y byddai angen gwario tua £700,000 i ddymchwel rhannau o'r adeilad oherwydd eu cyflwr.
Mae rhai rhannau o'r ysgol wedi'u tynnu o ddefnydd, sy'n golygu bod ei chapasiti defnyddiadwy wedi gostwng i 86 o leoedd, gyda 38 ohonyn nhw'n wag ym mis Ionawr.
Yn ystod y drafodaeth ar Ysgol Carwe, fe wnaeth y Cynghorydd Tyssul Evans gwestiynu'r rhesymau ariannol dros y cynnig.
Dadleuodd nad oedd gan yr ysgol ddiffyg ariannol, a'i bod yn cael ei chosbi am leihau nifer ei staff.
Roedd gan Ysgol Carwe warged o £4,706 ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025/26, ond mae'r cyngor yn rhagweld diffyg o £23,143 erbyn diwedd 2026/27.
Wrth eilio'r cynnig i gynnal ymgynghoriad a gau Ysgol Carwe, dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny nad oedd modd cyfiawnhau gwario ar adeilad sydd wedi bod ar gau ers dros flwyddyn.
Fe wnaeth Mr Lenny hefyd gydnabod bod lleihad yng nghyfradd y babanod sydd wedi eu geni yn yr ardal yn ddiweddar yn golygu bod y broblem o lefydd gweigion mewn ysgolion yn parhau.
Er gwaethaf y pryderon a gafodd eu codi, fe wnaeth y cabinet gymeradwyo cynnal yr ymgynghoriadau ar y pedair ysgol yn unfrydol.
Gwrthwynebiad lleol
Mae llywodraethwyr ysgolion Pontiets, Carwe a Bancffosfelen wedi galw ar Lywodraeth Cymru i atal penderfyniadau i gau ysgolion cyfrwng Cymraeg dros dro.
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, fe wnaeth y llywodraethwyr alw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg", gan wrthwynebu'r syniad o gau ysgolion "yn un o gadarnleoedd y Gymraeg".
Roedd y llythyr hefyd yn cyfeirio at "bwysigrwydd Cwm Gwendraeth, nid yn unig i Gymreictod y Sir, ond i barhad yr iaith yn genedlaethol".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion.
Mae'r cyngor yn dadlau y byddai'r cynigion yn gwneud gwell defnydd o adnoddau ac yn rhoi cyfleoedd addysgol a chymdeithasol ehangach i'r disgyblion.
Ond mae'r dogfennau ymgynghori hefyd yn cydnabod yr effaith bosibl ar gymunedau, y tarfu ar blant a theuluoedd, a'r angen i rai disgyblion deithio ymhellach.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
O dan y cynigion, byddai disgyblion Ysgol Blaenau yn trosglwyddo i Ysgol Gymraeg Penygroes neu Ysgol Llandybie, a disgyblion Ysgol Pontiets yn mynd i Ysgol Ponthenri.
Byddai disgyblion presennol Ysgol Carwe yn parhau yn Ysgol Gwynfryn, yn amodol ar ddewis rhieni, gyda dalgylch Carwe yn dod yn rhan o ddalgylch Ysgol Gymunedol Trimsaran.
Byddai disgyblion Ysgol Bancffosfelen yn trosglwyddo i Ysgol Pontyberem, lle mae cynlluniau i ehangu capasiti'r ysgol.
Mae'r cyngor yn dweud y byddai'n ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol, ond na all ddiystyru'r posibilrwydd o golli swyddi.
Bydd rhieni, disgyblion, staff ac aelodau'r cymunedau yn cael cyfle i gyflwyno eu barn a chynnig dewisiadau eraill yn ystod yr ymgynghoriadau cyn unrhyw benderfyniadau terfynol.
Mae'r cyngor eisoes wedi gwneud penderfyniad terfynol i gau dwy ysgol gynradd wledig arall, sef Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn, ar ddiwedd eleni.
