Rhyddhau cyn-AS Pen-y-bont yn amodol ar ôl addasu pasbort i fynd ar wefan gamblo

Katie Wallis

Mae cyn-AS Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cerdded yn rhydd o'r llys ar ôl cyfaddef i addasu copi o basbort i gael mynediad at wefan gamblo.

Katie Wallis, a oedd yn AS rhwng 2019 a 2024, oedd yr AS cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin i ddweud ei bod yn agored drawsryweddol, a hynny yn 2022.

Mae Wallis, a oedd yn cael ei hadnabod fel Jamie o’r blaen, ac sy’n 42 oed, bellach yn defnyddio rhagenwau benywaidd.

Fe wnaeth ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd i bledio’n euog i drosedd o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron. 

Cafodd y drosedd ei chyflawni ym mis Ebrill 2022, pan oedd yn AS.

Dyddiad geni

Clywodd y llys ei bod wedi newid ei dyddiad geni yn ddigidol ar lun neu sgan o’i phasbort “ar fympwy, ar adeg o drallod seicolegol difrifol”. 

Fe wnaeth hynny er mwyn cael mynediad at wefan gamblo, er ei bod wedi cofrestru i wahardd ei hun rhag defnyddio gwefannau o’r fath.

Mewn datganiad ysgrifenedig yn nodi sail ei phle, dywedodd Wallis fod ganddi “broblem gamblo” cyn iddi gael ei hethol ym mis Rhagfyr 2019.

Roedd wedi cymryd camau i fynd i’r afael â hynny drwy gofrestru gyda chynllun cenedlaethol i wahardd ei hun rhag gamblo.

“Roedd y broblem dan reolaeth pan gafodd ei hethol ac, ar wahân i’r ymddygiad sy’n destun y cyhuddiad, nid oedd wedi effeithio ar ei gallu i gyflawni ei dyletswyddau fel aelod seneddol ar unrhyw adeg,” meddai’r datganiad.

“O ganlyniad, nid oedd gan gwmnïau gamblo ar-lein ganiatâd i adael iddi ddefnyddio eu gwefannau, ac roedd hi’n gwybod nad oedd ganddi hawl i gael mynediad atyn nhw.”

Clywodd y llys fod Wallis wedi rhoi arian mewn cyfrif gamblo ar-lein, cyn colli’r arian hwnnw.

“Nid yw’r diffynnydd wedi ailadrodd yr ymddygiad hwn.

“Nid yw’r broblem gamblo a oedd wrth wraidd y drosedd wedi dychwelyd, nid yw wedi arwain at unrhyw droseddu pellach, ac nid yw bellach yn rhan o’i bywyd.”

Dywedodd yr erlyniad wrth y llys nad oedd Wallis wedi ymyrryd â chopi caled ei phasbort ei hun na’i newid mewn unrhyw ffordd.

‘Oedi sylweddol’

Dywedodd y Barnwr Shomon Khan fod y bai ar Wallis a’r niwed a achoswyd “ar y lefel isaf bosib”.

“Un weithred syml, ar fympwy, oedd hon yn ystod cyfnod o drallod seicolegol difrifol,” meddai.

“Doedd neb arall wedi colli arian, doedd dim mynediad wedi’i gael at ddata unrhyw berson arall, a doedd dim system gyfrifiadurol wedi’i difrodi.

“Chi oedd yr unig berson a gollodd arian."

Ychwanegodd y barnwr: “O ystyried eich bod wedi pledio yn euog, yr holl dystiolaeth feddygol, yr oedi sylweddol yn yr achos hwn, nad oeddech chi’n gyfrifol amdano, eich amgylchiadau personol cryf sy’n lliniaru’r drosedd, a’r effaith rydych chi eisoes wedi’i dioddef yn eich gyrfa a’ch enw da, does fawr o bwrpas i mi eich cosbi ymhellach am y drosedd hon.

“Yn hytrach, rydw i’n mynd i'ch rhyddhau'n amodol am gyfnod o naw mis.

“Os byddwch chi’n cyflawni unrhyw drosedd arall yn ystod y naw mis nesaf, fe allwch chi gael eich dedfrydu eto am y drosedd hon.”

Cafodd Wallis, a oedd wedi cynrychioli ei hun yn ystod yr achos, orchymyn hefyd i dalu gordal statudol o £26.

Fe wnaeth y barnwr hefyd gofnodi yn ffurfiol ei bod wedi pledio yn ddi-euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud â meddu ar basbort ffug.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.