Gorsafoedd petrol yn cau oherwydd diffyg gyrwyr lorïau

Mae cwmnïau BP a Tesco wedi penderfynu cau rhai o'u gorsafoedd petrol ar draws y Deyrnas Unedig oherwydd diffyg cyflenwadau tanwydd a diffyg gyrwyr lorïau HGV.
O dan eu cynlluniau newydd, fe fydd BP yn darparu 80% o'u gwasanaethau arferol i 90% o'u gorsafoedd petrol, ond fe fydd gorsafoedd ar draffyrdd yn derbyn blaenoriaeth ac yn cael eu hail-lenwi gyda chyflenwadau arferol.
Dywedodd pennaeth BP, Hanna Hofer, fod y sefyllfa yn "eithriadol o ddrwg" ac roedd yn gobeithio bod y llywodraeth yn cydnabod fod y sefyllfa yn "argyfwng", yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.