Newyddion S4C

Deddf Erthylu: Dynes â Syndrom Down yn colli her yn yr Uchel Lys

Golwg 360 23/09/2021
Uchel Lys
Uchel Lys

Mae dynes â chyflwr Syndrom Down wedi colli her gyfreithiol yn erbyn deddf sy’n caniatáu i fabanod yn y groth sydd â Syndrom Down gael eu herthylu hyd at enedigaeth.

Fe gyflwynodd Heidi Crowter, sydd yn 26 oed ac yn dod o Coventry, yr her yn yr Uchel Lys yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Iau, gan ddweud nad yw'r gyfraith yn parchu ei bywyd. 

Mae modd i fenywod gael erthyliad o fewn cyfnod o 24 wythnos yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Ond mae modd caniatáu erthyliadau hyd at enedigaeth os oes "risg sylweddol y gallai'r plentyn ddioddef abnormalrwydd fel ei fod dan anfantais pe bai'n cael ei eni."

Mae hyn yn berthnasol i Syndrom Down hefyd. 

Yn ôl Golwg360, dywedodd y barnwr nad oedd y rhan honno o'r Ddeddf Erthylu yn gyfreithlon, a’i fod yn "ceisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl plentyn heb ei eni a hawliau menywod."

Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd Heidi Crowter "nad yw'r frwydr drosodd".

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.