Newyddion S4C

Llywodraeth y DU angen buddsoddi ‘degau o filiynau’ ym mhrosiect Wylfa Newydd

23/09/2021
Wylfa, Cemaes, Ynys Môn
CC

Mae angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi “degau o filiynau” ym mhrosiect Wylfa Newydd er mwyn caniatáu’r prosiect i symud yn ei flaen, yn ôl datblygwyr.

Roedd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cwrdd yn San Steffan fore dydd Iau i glywed y diweddaraf am ddatblygiad y safle niwclear newydd ar Ynys Môn, yn dilyn methiant cynllun Horizon.

Roedd Aelodau Seneddol yn archwilio’r gefnogaeth fyddai’r sector ei angen i ddatblygu gorsafoedd niwclear newydd, a’r tebygolrwydd o gael gorsaf Wylfa Newydd.

Fe gafodd arbenigwyr y maes niwclear a datblygwyr posib ar gyfer prosiect Wylfa Newydd gyfle i fynd gerbron y pwyllgor.

Angen 'buddsoddiad cymedrol'

Yn ôl cyfarwyddwyr cwmnïau sy’n gobeithio bod yn rhan o’r prosiect ar safle Wyddfa Newydd, maent yn cydnabod yr heriau mae’r trysorlys yn ei wynebu yn dilyn y pandemig, ond eu bod yn gofyn am fuddsoddiad “cymedrol” i symud y prosiect yn ei flaen.

Fe ddywedodd Barbara Rusinko o gwmni Bechtel y byddai’r llywodraeth yn gallu bod o gymorth drwy roi sicrwydd i gwmnïau fyddai’n cyfrannu i’r gwaith o ddatblygu ar y safle.

Mae Bechtel yn arwain consortiwm ac mewn trafodaethau gyda’r llywodraeth i brynu safle Wylfa Newydd.

Yn rhan o’r consortiwm hwnnw mae cwmni niwclear Westinghouse UK.

Ychwanegodd Lindsay Roche o gwmni Westinghouse UK y byddai buddsoddiad gan y llywodraeth yn denu mwy o fuddsoddwyr a datblygwyr: “Dwi’n meddwl ein bod ni gyd angen cydnabod yr heriau sydd can y trysorlys ar yr amser hyn wedi’r pandemig wrth i ni fynd i’r adolygiad gwario. Dyna ble rydym ni ar hyn o bryd. Rydym ni’n gofyn am fuddsoddiad cymedrol er mwyn caniatáu’r prosiect hwn i ddechrau, i symud ymlaen.”

Ychwanegodd Ms Roche mai degau o filiynau, nid cannoedd, fyddai angen i’r llywodraeth fuddsoddi yn rhan o’u cynlluniau i ddatblygu ar y safle.

Roedd un cwmni arall wedi siarad gerbron y pwyllgor, Shearwater Energy.

Mae Shearwater Energy yn gwmni arall sy'n gobeithio datblygu safle Wylfa Newydd.

Pan holodd y pwyllgor sut fydd y cwmni yn gobeithio cael y tir o ddwylo Horizon, fe atebodd cyfarwyddwr y cwmni, Simon Forster y byddai hynny'n dod gyda "dipyn o her".

Argyfwng carbon

Yn siarad gerbron y pwyllgor ddydd Iau oedd panel o arbenigwyr o’r diwydiant niwclear.

Roedd cydnabyddiaeth amlwg bod egni niwclear yn chwarae rôl “elfennol” wrth anelu am darged net sero o allyriadau carbon erbyn 2050.

Dywedodd yr Athro Laurence Williams OBE, Athro Polisi a Rheoleiddiad Niwclear Prifysgol Bangor: “ Mae gan niwclear rôl elfennol i’w chwarae… mae niwclear yn ffynhonnell egni carbon isel andros o werthfawr. Mae ganddo ddwysedd egni uchel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.