Perfformiad adrannau brys Cymru ar ei waethaf ers dechrau cadw cofnodion
Mae'r ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed wedi cael eu cofnodi gan adrannau brys mewn ysbytai yng Nghymru.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r Gwasanaeth Iechyd wynebu pwysau aruthrol dros y misoedd diwethaf.
Gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans yn profi eu mis Awst prysuraf ar gofnod, roedd y nifer o alwadau coch gafodd ymateb o fewn 8 munud yn is na lefelau cyn-pandemig, ac roeddent yn parhau i 13eg mis yn olynnol.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi mwy o arian i gefnogi gwasanaethau brys gan ychwanegu eu bod yn annog pobl i ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer eu gofal.
Mae'r ffigyrau yn dangos fod adrannau brys mewn ysbytai wedi cofnodi eu ffigyrau perfformio gwaethaf erioed, gyda 68.7% o gleifion yn treulio llai na pedair awr mewn adrannau ym mis Awst.
Mae hyn 11.3% yn is na'r un mis yn 2020, ac 38% yn is na'r targed o 95%.
Yn ystod y bum mlynedd cyn y pandemig, mae’r ganran o bobl a gafodd eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adran frys wedi aros o gwmpas 80%, cyn cyrraedd yr isafbwynt baenorol ym mis Rhagfyr 2020.
Roedd amseroedd aros ar gyfer triniaethau gofal oedd wedi eu trefnu yn parhau i dyfu, gyda’r nifer uchaf erioed o gleifion yn aros am yn hirach na 36 wythnos.
Er i amseroedd aros cyfartalog barhau’n uwch na’r lefelau cyn y pandemig, mae’r ffigyrau’n awgrymu eu bod yn gostwng.
'teimlo'n isel'
'Amseroedd aros annerbyniol'
Dywedodd Russell George AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig: "Rydym yn gweld triniaeth frys a dewisol tu mewn i'r GIG yn cyrraedd ei eithaf ar hyn o bryd. Mae hyn yn arwain at amseroedd aros annerbyniol ar gyfer cleifion a blinder annioddefol i staff sy'n gweithio'n galed.
"Dyna pam roeddwn ni'n siomedig i weld Llafur yn gwrthod argyfwng ambiwlans ddoe, yn bryderus nad ydynt wedi rhyddhau cynllun gaeaf ar gyfer y GIG a mabwysiadu'r argymhellion rydym wedi eu hamlinellu, a'n ofni y gallai'r amseroedd aros hir hyn waethygu eto fyth".
'Lefel uchel o ofal'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er gwaethaf pwysau cynyddol yn ystod lefelau digynsail o alw a gweithgarwch, mae ein staff GIG gweithgar yn parhau i ddarparu lefelau uchel o ofal wrth drin cleifion yn ystod y pandemig.
"Mae'r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn uchel. Roedd nifer y derbyniadau i holl adrannau brys GIG Cymru a nifer cyfartalog y derbyniadau i adrannau achosion brys y dydd ym mis Awst 2021 ychydig yn is na'r mis blaenorol, ond roeddent yn dal yn uwch na'r llynedd.
"Rydym wedi sicrhau bod £25m o gyllid ar gael i wella'r modd y darperir gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng".