Newyddion S4C

Meddyg blaenllaw yn beirniadu cynllun canolfan ganser yng Nghaerdydd

ITV Cymru 22/09/2021

Meddyg blaenllaw yn beirniadu cynllun canolfan ganser yng Nghaerdydd

Mae cynllun i adeiladu canolfan ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd yn parhau i danio dadl ymysg y gymuned leol a'r gymuned feddygol. 

Bwriad y cynlluniau presennol, sydd wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru, yw adeiladu canolfan ganser newydd yn agos at ysbyty Felindre yn y Mynydd Bychan. 

Ond bellach, mae meddyg blaenllaw wedi codi cwestiynau am y lleoliad gan alw ar y ganolfan i gael ei lleoli ger Ysbyty Athrofaol Cymru sydd â gwasanaethau brys. 

Yn ei chyfweliad cyntaf ar y pwnc, mae Dr Laura McClelland yn lleisio ei phryderon ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C nos Fercher:  

“Mae yna addewid a theimlad o sicrwydd i’r cyhoedd ac i gleifion bod Ysbyty Athrofaol Cymru ond ychydig funudau i ffwrdd ac yn ddaearyddol, mae hynny’n wir.

“Fodd bynnag, mae’r realiti o aros am ambiwlans, cyrraedd yr ysbyty, trosglwyddo cleifion i ofal critigol neu i uned aciwt, lle bynnag mae’r person, bob amser yn mynd i gymryd fwy o amser. 

Ddechrau’r mis, cafodd llythyr ei arwyddo oedd yn dangos pryderon grŵp canser ymgynghorol am y cynllun presennol. 

Mae Ymddiredolaeth Felindre’n dweud eu bod wedi clywed ac ystyried barn y rhanddeiliaid a’n mynnu bod darpariaeth ddigonol ar waith. Ond mae Dr Laura McClelland yn teimlo nad yw lleisiau nifer o’r gymuned feddygol heb gael eu clywed.

“Fel rhywun sy’n gwybod beth sy’n digwydd pan bo cyflwr cleifion yn dirywio yng nghanol y nos a methu cael eu trosglwyddo i le gofal pwrpasol, fy ngwaith i yw siarad ar eu rhan.

“Fe allai hyn ddigwydd i ti neu fi wythnos nesaf a dwi’n gobeithio y byddai rhywun yn codi llais i'n hamddiffyn ni.”

Image
Catrin Finch
Mae'r delynores Catrin Finch yn credu bod parhau i drafod y penderfyniad yn wastraff o amser gwerthfawr. Llun: ITV Cymru

Un sy’n cefnogi'r cynllun yw’r delynores Catrin Finch.

Yn 2018, cafodd Catrin ddiagnosis o ganser y fron a threuliodd fisoedd lawer yng nghanolfan ganser Felindre. Yn ei barn hi, fe ddylai’r ganolfan gael ei hadeiladu cyn gynted â phosib:

“Ar ryw adeg, dwi’n credu mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen, mae’n rhaid i benderfyniad gael ei wneud, bydd bob amser gwrthddadl, bydd bob amser rheswm pam na ddylid adeiladu’r ysbyty ar y safle yma."

I Catrin Finch, mae’r holl ddadlau ynghylch y mater yn oedi’r broses ymhellach: 

“Rwy’n credu gall pobl fynd ymlaen i ddadlau am flynyddoedd, ond yn achos ysbyty canser, does ddim gan bobl flynyddoedd. Ac i mi, dyna ydy’r pwynt, mae hi eisoes yn rhy hwyr i ddatblygu Felindre - mae angen y ganolfan.”

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r cynllun ac mae cefnogwyr yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn agor ei drysau ar y tir ymhen pedair blynedd.

Mewn datganiad, dywedodd Ymddiredolaeth Felindre wrth Y Byd yn ei Le:  "Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mewn partneriaeth â'n staff, cleifion, Cyngor Iechyd Cymunedol, cydweithwyr GIG Cymru, prifysgolion a llawer mwy, wedi ystyried ac wrthi'n mynd i'r afael â'r materion a godwyd fel rhan o'n gwaith ar brosiect Canolfan Ganser Felindre newydd ac wrth i ni ddatblygu'r model rhanbarthol o ofal canser."

Bydd rhaglen Y Byd yn ei Le yn cael ei darlledu ar S4C am 20:25 nos Fercher.

Lluniau: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.