Newyddion S4C

Y gyflwynwraig radio Magi Dodd wedi marw'n 44 oed

22/09/2021
Magi Dodd

Mae'r gyflwynraig radio a'r cynhyrchydd radio Magi Dodd, oedd yn lais cyfarwydd ar wasanaeth radio'r BBC yng Nghymru, wedi marw yn 44 oed.

Yn wreiddiol o Bontypridd, fe fynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen a mynd i'r brifysgol yn Aberystwyth, cyn dod yn gyflwynwraig boblogaidd ar wasanaeth C2 Radio Cymru am nifer o flynyddoedd.

Roedd ei bro yn ddylanwad mawr arni drwy gydol ei bywyd. Mewn un cyfweliad fe siaradodd am ddylanwad Pontypridd a'r iaith Gymraeg ar ei bywyd:

"Ma’ lot o bobl wedi gweud am fy Nghymraeg i, dyw e ddim yn Gymraeg cywir, dyw e ddim yn Gymraeg perffeth. Ond i fi, dwi'n falch iawn a dwi'n gweud wrth bawb bo fi'n dod o Bontypridd a dwi'n falch o'r Gymraeg dwi'n siarad, a dwi'n falch o'r math o berson ydw i, diolch i Bontypridd."

'Colled enfawr'

Roedd Ifan Sion Davies yn cyd-gyflwyno cyfres Cwis Pop ar Radio Cymru gyda Magi Dodd tan 2017.

Dywedodd Mr Davies wrth Newyddion S4C: “Mae’n sioc enfawr i glywed y newyddion heddiw. Roedd Magi yn berson mor annwyl, llawn bywyd fyddai bob tro’n gwneud i rywun wenu.

“Yn lais amlwg ar hyd y blynyddoedd ar Radio Cymru, fe gyfrannodd gymaint i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg. Mae fy nyled i’n enfawr i Magi, ac roedd hi’n fraint i mi weithio gyda hi ar y Cwis Pop am flynyddoedd.

“Rwy’n cydymdeimlo gyda’i theulu a’i ffrindiau ar yr amser anodd hon. Bydd colled enfawr ar ôl Magi.”

Dywedodd cyfarwyddwr cynnwys a gwasanaethau BBC Cymru, Rhuanedd Richards mewn datganiad fod yna "barch mawr tuag ati fel darlledwraig i ddechrau ac yna fel cynhyrchydd.

"Mi wnes i fynychu yr un ysgol uwchradd a Magi ym Mhontypridd ac roedd hi wastad yn cael ei hadnabod fel person caredig, egnïol a chreadigol oedd yn frwdfrydig am ei gwaith ac yn angerddol dros y Gymraeg.

"Mae colli Magi yn ergyd drom i bob un ohonom, ond yn enwedig i'w ffrindiau, i'w chydweithwyr yn Radio Cymru ac wrth gwrs, yn bennaf oll, i'w theulu."

Mae teyrngedau wedi eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y newyddion am ei marwolaeth.

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.