Newyddion S4C

Netflix yn prynu’r hawliau i holl waith Roald Dahl

The Guardian 22/09/2021
roald dahl

Mae Netflix wedi prynu’r hawliau ar gyfer holl waith yr awdur Roald Dahl.

Fe ysgrifennodd Dahl, a aned yng Nghaerdydd i rieni o Norwy, sawl llyfr enwog gan gynnwys Matlida, Charlie and the Chocolate Factory a The BFG.

Mae Netflix eisoes wedi prynu’r hawliau i 16 darn o waith gan yr awdur. 

Yn ôl The Guardian, mae Netflix bellach wedi sicrhau dêl fyddai’n gweld y darlledwr yn prynu’r busnes sydd yn berchen ac yn rheoli catalog yr awdur.

Mi fydd y cytundeb yn galluogi Netflix i gyfaethogi eu portffolio o gynnwys mewn diwydiant lle mae’n rhaid cystadlu gyda darlledwyr tebyg fel Amazon Prime, Disney+ a HBO.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: Queenie & the Dew 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.