Newyddion S4C

Jonathan Davies yn gapten newydd ar y Scarlets

S4C  Chwaraeon 21/09/2021

Jonathan Davies yn gapten newydd ar y Scarlets

Fe fydd y chwaraewr rhyngwladol Jonathan Davies, sydd wedi chwarae dros Gymru a'r Llewod, yn gapten ar y Scarlets ar gyfer y tymor newydd yn 2021-2022.

Mae Davies wedi chwarae 170 o gemau i'r rhanbarth ers ymddangos am y tro cyntaf yn 2006.

Mae gan Davies hefyd 91 o gapiau dros Gymru ac wedi cynrychioli'r Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017.

Dyma fydd ei ail gyfnod yn gapten ar y Scarlets wedi iddo fod yn gyd-gapten gyda Rob McCusker yn 2013.

Mae Jonathan 'Foxy' Davies yn camu i'r rôl wedi i'r bachwr Ken Owens gamu o'r neilltu wedi saith tymor yn olynol.

Dywedodd Jonathan Davies: "Supporto'r Scarlets ers bod fi'n crwtyn bach. Mynd i'r Parc y Strade, i gweld bois fel Stephen Jones, bois fel Dwayne Peel yn chwarae, ac i chwarae i'r Scarlets ma' fe'n gwych i fi. Ond yn bersonol nawr i fod yn gapten, ma fe'n mor prowd a ma'r bois wedi bod yn ffantastig".

Wrth gyhoeddi'r newyddion, fe dalodd Dwayne Peel deyrnged i ragflaenydd Davies.

Dywedodd Peel: "Ma' Ken wedi 'neud e am amser hir, mae 'di 'neud jobyn arbennig o dda a o'n i jyst yn teimlo fel bod dechrau ffres a rhyddhau Ken tamed bach o cyfrifoldeb 'ny, bod e'n 'llu mwynhau ei hunan am y blynyddoedd gweddill mae'n mynd i fod 'ma".  

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.