Newyddion S4C

Prinder ceir newydd yn 'fygythiad' i fusnesau moduron

Newyddion S4C 21/09/2021

Prinder ceir newydd yn 'fygythiad' i fusnesau moduron

Mae pryder y gallai busnesau moduron bach yng Nghymru fynd i'r wal oherwydd prinder ceir newydd.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae pris rhai ceir ail-law wedi cynyddu 30% gan nad oes digon o gerbydau ar werth i ateb y galw.

Prinder semiconductors - y sglodion cyfrifiadurol sy'n rhan annatod o gerbydau newydd - sy'n bennaf gyfrifol.

Dydy Emyr Jones sy’n gweithio yn Garej Regent yng Nghricieth ers deg mlynedd ddim yn cofio cyfnod tebyg, mae’n ofni  gallai gymryd dwy flynedd o leiaf i bethau sefydlogi eto.

“Gan bo 'na ddim ceir newydd ma' mwy a mwy o bobl yn prynu ceir ail-law yn lle ceir newydd, yn enwedig ceir o chwe mis fyny i ryw ddwy oed, ma' pawb i'w weld yn prynu'r rheini am bo nhw methu cael rhai newydd," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C. 

Image
Newyddion S4C
Mae Emyr Jones o Garej Regent yng Nghricieth yn dweud bod prinder ceir yn cynyddu prisiau. 

“Ond am bo 'na ddim ceir newydd yn cael eu gwerthu does 'na'm ceir ail-law yn dod i mewn yn eu lle nhw.

“Felly ma' 'na brinder ceir hefyd, a ma' huna jyst wedi gwthio prisiau i fyny.”

68,000 o geir newydd gafodd eu gwerthu ym Mhrydain fis Awst - gostyngiad o 22% o'i gymharu â'r un mis y llynedd.

Mae'n sefyllfa ddyrys hefyd i berchennog cwmni Ceir Cymru ym Methel, Gari Wyn.

Fel rheol mae gan ei gwmni 150 o geir ar un adeg yn barod i’w gwerthu, ond mae’r trafferthion diweddar wedi arwain at y stoc yn gostwng i 65 o geir.

“Ma’ 'na sawl rheswm am y sefyllfa bresennol,” meddai.

Image
Newyddion S4C
Fel arfer, mae gan Ceir Cymru 150 o geir ar un adeg yn barod i’w gwerthu, ond mae’r trafferthion diweddar wedi arwain at y stoc yn gostwng i 65 o geir.

“Yn un peth does 'na ddim ceir newydd di bo'n cael eu cynhyrchu dros y flwyddyn ddiwethaf, ar ben hynny dodd y cwmnïau mawr ddim angen ceir newydd, ac ar ben hynny i gymhlethu pethau'n ofnadwy ma'r ffaith bo'r 'semiconductors' sy'n allweddol i'n pethau trydanol ni i gyd yn yr ECU's (Engine Control Unit).”

“Y gwir amdani ydy ma' cwmnïau bach yn mynd i gael eu cicio allan o'r busnes a does na'm dwywaith amdani, yn enwedig cwmnïau sy'n benthyg lot fawr o arian achos ma' hwn yn rhywbeth sydd yma nid am y tri mis nesaf, ond mae o yma am ddeuddeg mis.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.