Newyddion S4C

Wally'r Walrws yn cyrraedd Gwlad yr Iâ wedi taith 900 milltir

Wales Online 21/09/2021
Wally'r Walrws

Mae Wally'r Walrws wedi cwblhau taith hirfaith o 900 milltir ar draws Cefnfor yr Iwerydd i gyrraedd Gwlad yr Iâ.

Wedi 22 diwrnod heb iddo gael ei weld, fe gafodd y newyddion da ei gadarnhau gan Achub Morlo Iwerddon (Seal Rescue Ireland), oedd wedi cymharu lluniau o'r walrws sydd wedi ei weld yng Ngwlad yr Iâ gyda lluniau o Wally.

Fe wnaeth Wally ymgartrefu yn Sir Benfro nôl ym mis Mawrth eleni, cyn ymweld â Chernyw, Ffrainc a Sbaen.

Y lle diwethaf iddo gael ei weld oedd yng ngorllewin Corc yn Iwerddon, gydag Achub Morlo Iwerddon wedi ei adnabod o'i greithiau ar flaen ei ffliperi.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Hafrún Eiríks / Gwlad yr Iâ

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.