Argyfwng ynni yn 'ergyd arall' i gwmnïau

Argyfwng ynni yn 'ergyd arall' i gwmnïau
Ar ôl delio ag effeithiau'r pandemig, prinder cynnyrch a diffyg gweithwyr mae'r argyfwng ynni yn ergyd arall i gwmnïau cyflenwi bwydydd fel cwmni Castell Howell yn Sir Gaerfyrddin.
Er nad yw'r prinder carbon deuocsid wedi cael effaith ar y cwmni eto mae yna bryder am y dyfodol medd un o gyfarwyddwyr marchnata'r cwmni.
"Rhwng popeth sy' di bwrw ni dros y misoedd, neu blwyddyn a hanner diwethaf ni'n gorfod delio gyda pethe'n ddyddiol, ma' problemau gwahanol bob dydd," meddai Kathryne Jones, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata Castell Howell.
"I gymharu â beth i ni wedi bod trwyddo a dal yn mynd trwyddo 'sa i'n gweud bo hwn yr un mwyaf, ond efallai i ni jyst yn derbyn e, jyst rywbeth arall yw e."
Wythnos ddiwethaf fe wnaeth un o gynhyrchwyr carbon deuocsid mwyaf Prydain ddod a'r gwaith o gynhyrchu CO2 i ben oherwydd prisiau uchel nwyon naturiol.
Yn ogystal â phecynnu bwyd mae nwy CO2 yn cael ei ddefnyddio i wneud cywion ac anifeiliaid eraill yn anymwybodol cyn iddynt gael eu lladd.
"Yn syml iawn mae'n 'preservative' sy'n rhoi estyniad i ddyddiad cynnyrch," eglura Kathryne Jones.
"Pan ni'n cynhyrchu bwyd ma'r bwyd yn mynd i mewn i pacedi, ni'n paco fe, ma'r nwy ma'n cael ei ddodi mewn i'r pecyn ac wedyn ma'n rhoi dyddiad extra i ni ar y cynnyrch."
Mae nifer o gwmnïau eisoes wedi rhybuddio gall y prinder nwy effeithio ar gyflenwad bwyd dros y Nadolig, ond yn ôl Kathryne Jones gall llawer o bethau eraill newid cyn hynny.
"Ma' sbel cyn Nadolig gall lot ddigwydd o nawr cyn y Nadolig yn bositif neu'n negyddol," dywedodd Ms Jones.
"Ma'' staff dal yn broblem. Cael stoc mewn yw'r broblem mwyaf a ma' hwnna wedi mynd yn stepen yn ôl achos y bobl sy'n cynhyrchu bwyd sy'n gwerthu i ni ma' nhw ffili cael y cynnyrch mewn, felly ma' jyst yn broblem mawr."