Mwyafrif ‘o blaid pasbort brechu’ i Gymru medd arolwg newydd
Mae arolwg barn newydd gan ITV Cymru yn dangos bod cefnogaeth gref i system pasbort brechu yng Nghymru, a fyddai’n gweld pobl yn gorfod profi eu bod nhw wedi eu brechu’n llawn.
Dangosodd yr arolwg barn fod 60% yn ffafrio'r syniad o basbort brechu, gyda 26% yn erbyn y syniad a'r gweddill gafodd eu holi ‘ddim yn siŵr’.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd angen i bobl ddangos Pàs Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen.
Bydd y Pàs Covid-19 yn dangos a rhannu eu statws brechu, a'u bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf, os nad yw person wedi’i frechu yn llawn.
Cafodd yr arolwg ei gynnal ar y cyd rhwng ITV Cymru a Phrifysgol Cymru, gyda 1071 o bobl yn cael eu holi.
Darllenwch y stori’n llawn yma.