Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn y canolbarth
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Thomas Wyn Evans, 34, oedd yn cael ei adnabod fel 'Winnie', pan fu ei gerbyd mewn gwrthdrawiad ar ffordd y B4569 rhwng Caersws a Threfeglwys ar nos Iau 16 Medi.
Fe wyrodd ei fan Ford arian oddi ar y ffordd tra roedd yn teithio o gyfeiriad y gorllewin tuag at Drefeglwys medd yr heddlu. Nid oedd cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd y teulu fod Mr Evans yn dad cariadus i'w fechgyn a'i bartner ac roedd ei holl deulu, ei gyfeillion a'r gymuned oll yn ei garu.
Roedd yn ddyn hynod boblogaidd oedd yn "gweithio a chwarae'n galed", ac yn "gyfaill ffyddlon i lawer oedd wastad gyda gwên ar ei wyneb."
Ychwanegodd y teulu fod y negeseuon yr oeddynt wedi eu derbyn yn dyst i'w boblogrwydd.