Darganfod corff wrth chwilio am ddyn o Fachynlleth sydd ar goll

20/09/2021
Ar goll

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi fod corff dyn wedi cael ei ddarganfod wrth i swyddogion geisio chwilio am ddyn sydd ar goll yn ardal Machynlleth.

Doedd neb wedi gweld Anthony Oldham ers iddo adael ei gartref i fynd am dro ddydd Sul, 12 Medi.

Fe gafodd y corff ei ddarganfod wythnos union yn ddiweddarach medd yr heddlu.

Mae'r heddlu'n dweud nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond bod teulu Mr Oldham wedi cael gwybod am y datblygiad.

Ychwanegodd swyddogion y llu mewn datganiad bod eu "meddyliau gyda'r teulu ar yr adeg hon".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.