Disgwyl i blaid Putin sicrhau buddugoliaeth yn etholiad Rwsia
Mae disgwyl i blaid arweinydd Rwsia, Vladimir Putin, sicrhau buddugoliaeth bendant yn etholiad seneddol y wlad.
Gyda’r pleidleisio bellach wedi dirwyn y i ben, mae canlyniadau rhagarweiniol yn amcangyfrif y bydd Rwsia Unedig yn sicrhau 38.57% o’r bleidlais.
Adrodda Sky News fod disgwyl i’r Blaid Gomiwnyddol ddod yn ail gydag o ddeutu 25.17% o’r bleidlais, a’r blaid genedlaetholgar LDPR yn drydydd gyda 9.6%.
Mae’r etholiad wedi bod yn destun adroddiadau o dwyll etholiadol, gan gynnwys pleidleisiau ffug, diffyg mesurau diogelwch, a phwysau ar y swyddogion monitro.
Mae cefnogwyr un o brif wrthwynebwyr y Kremlin sydd bellach wedi ei garcharu, Alexei Navalny, wedi annog Rwsiaid i ddefnyddio strategaeth bleidleisio dactegol.
Y cyngor, medd Sky News, yw i bobl roi eu pleidlais i’r ymgeisydd sy’n fwyaf tebygol o drechu Rwsia Unedig, ond mae hi’n rhy gynnar i nodi os yw hyn wedi bod yn llwyddiannus eto.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Fforwm Economaidd y Byd