Llosgfynydd wedi ffrwydro ar ynys Sbaeneg La Palma

Llosgfynydd wedi ffrwydro ar ynys Sbaeneg La Palma

The Independent 19/09/2021

Mae llosgfynydd wedi ffrwydro ar un o’r Ynysoedd Dedwydd, La Palma.

Mae lluniau wedi eu rhannu o lafa yn llifo a chwmwl mawr o fwg uwchben y mynydd.

Yn ôl The Independent, dywedodd arbenigwyr nad oedd y llosgfynydd yn debygol o ffrwydro.

Ond, bu cyfres o ddaeargrynfeydd mwy dwys brynhawn Sul.

Mae'r awdurdodau'n galw ar bobl i gadw draw.

Darllenwch fwy o fanylion yma.

Lluniau: INVOLCAN