Actor Only Fools and Horses, John Challis, wedi marw

Mae’r actor oedd yn chwarae Boycie yn y rhaglen gomedi boblogaidd Only Fools and Horses wedi marw yn 79 oed.
Bu farw John Challis yn ‘dawel yn ei gwsg’ ar ôl salwch hir gyda chanser, yn ôl Mail Online.
Roedd Challis yn adnabyddus am ei bortread o’r gwerthwr ceir ail-law, Boycie, gyda’r actorion Sir David Jason a Nicholas Lyndhurst.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Gyda chalon drom, ry’n ni’n dod â newyddion trist iawn ichi. Mae ein ffrind, John Challis, wedi marw’n dawel yn ei gwsg, ar ôl brwydr hir gyda chanser.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Only Fools and Horses / Twitter