Protest yn Wrecsam dros geiswyr lloches

Newyddion S4C
Protest Rhosllanerchrugog

Roedd presenoldeb heddlu amlwg yn Wrecsam ddydd Sadwrn wrth i tua 300 o bobl, rhai o blaid a rhai yn erbyn ceiswyr lloches, gynnal protest.

Cynllun posib gan y Swyddfa Gartref i roi ceiswyr lloches mewn cartref gofal yn Rhosllanerchrugog sbardunodd y protestiadau.

Mae’r Swyddfa Gartref eisoes wedi cadarnhau na fydd hynny yn digwydd.

Bu’n rhaid i swyddogion yr heddlu sefyll rhwng y ddwy ochr am gyfnod.

Roedd adeilad Plas yn Rhos yn Rhosllanerchrugog, ger Wrecsam, wedi ei awgrymu fel cyfleuster a allai fod wedi lletya hyd at 70 o geiswyr lloches.

Cadarnhaodd Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth eu bod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref na fyddai'r eiddo'n cael ei ddatblygu ar gyfer y fath ddefnydd.
 

Image
Y brotest
Y brotest yn Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.