Newyddion S4C

Asiantaethau teithio yn galw am eglurder am ddyfodol system oleuadau traffig Cymru

19/09/2021

Asiantaethau teithio yn galw am eglurder am ddyfodol system oleuadau traffig Cymru

Mae asiantaethau teithio yng Nghymru yn pryderu am ddyfodol eu busnesau wrth iddyn nhw aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru os byddant yn gwaredu’r system oleuadau traffig wrth deithio dramor.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi ddydd Gwener y bydd y system oleuadau traffig wrth deithio i mewn ac allan o Loegr yn dod i ben.

O 4 Hydref, bydd unrhyw le sydd ddim ar y rhestr goch yn cael ei hystyried fel 'gwlad werdd', ac yn ei gwneud yn wlad sy'n rhydd i deithio iddi.

Ond, does dim cadarnhad o beth fydd penderfyniad gan Lywodraeth Cymru eto.

Dywedodd Ann Jones o asiantaeth deithio Teithiau Menai yng Nghaernarfon wrth Newyddion S4C bod angen eglurder ar y sector: “Swn i’n hoffi’n fawr sa nhw’n cyhoeddi ddoe [dydd Gwener], a ddim mewn wythnos neu ddwy be ma nhw’n mynd i wneud.

“Fedra’ i ddim cario mlaen efo busnes fel sgen i os ‘di nhw’n mynd i fynd yn erbyn o”, ychwanegodd.

“‘Dan ni angen cadarnhad rŵan. Jyst croesi bob dim bod nhw’n mynd i ddilyn Lloegr yn hyn”.

Dywedodd Nicola Davies o asiantaeth deithio Nico Travel yn Llanrwst wrth Newyddion S4C hefyd bod y system oleuadau traffig sydd wedi ei defnyddio hyd yma wedi bod yn gymhleth.

Dywedodd: “Mae wedi bod bach yn confusing swn i’n ddeud. Gwahanol reolau. Mae dal yn mynd i fod actually yr un un peth.

“Ond, dwi’n meddwl bod ‘na lot wedi cael ofn mynd rhag ofn o’ddan nhw’n testio’n positif i ddod adra”.

Ystyried ‘tystiolaeth gadarn’

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud y byddan nhw’n ystyried y newidiadau i deithio rhyngwladol sydd wedi cyhoeddi yn Lloegr.

Mewn datganiad ysgrifenedig nos Wener, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, y bydd ystyriaethau’r llywodraeth wedi’u seilio ar “dystiolaeth gadarn”, gyda’r nod o “leihau’r risg i iechyd y cyhoedd yng Nghymru”.

Dywedodd y Gweinidog: “Nid yw’r newidiadau hyn yn ddi-risg – maent yn gwanhau’r llinell amddiffyn rhag mewnforio heintiau ac maent yn cynyddu cyfleoedd i heintiau newydd ac amrywiolion newydd gyrraedd y DU a Chymru”.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobl i beidio teithio dramor ar hyn o bryd, oni bai am resymau hanfodol.

‘Cur pen ofnadwy’

Dywedodd Ann Jones bod y drefn dros y misoedd diwethaf wedi bod yn “gymhleth ofnadwy”.

“Mae o mor anodd egluro fo, mae o wedi cymryd oriau o waith yn y siop i fi drio mynd trwy pa brosesau ma pobl yn gorfod gwneud i fynd ac i ddod yn ôl.

“Be ma nhw’n gorfod cael? PCR neu lateral flows – mae hi wedi bod yn gur pen ofnadwy”.

Fel rhan o'r cyhoeddiad ddydd Gwener, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau i'r rheolau profion i deithwyr. 

Mae'r newid yn golygu na fydd angen i deithwyr gymryd prawf Covid-19 cyn teithio i Loegr o dramor.

Ond, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y byddant yn "ystyried yn ofalus" cyn cadarnhau unrhyw newid o’r fath. 

Dywedodd Nicola Davies ei bod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newid diweddar i alluogi teithwyr tramor i gymryd prawf PCR o ddarparwr preifat.

“Dwi’n falch yn cychwyn hefo’r ffaith bod nhw yn newid y rheola’ efo testio lle mae rhywun yn gallu mynd i private cwmni i prynu test”, meddai.

Mae’n gobeithio y bydd hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu’r newidiadau yn Lloegr y tro hwn.

“Y ffaith bod Lloegr wedi edrych arno fo eto a wedi newid testing system nhw, bydd rhaid dwi’n meddwl i Gymru ddilyn”, ychwanegodd.

‘Gaeaf caled’

Dywedodd Ann fod misoedd anodd o’i blaen: “Does dim byd wedi dod mewn ers mis Mawrth diwetha’ wedyn mae gen i aeaf caled o’m mlaen.

Eglurodd Ann fod angen hyder ar gwsmeriaid i drefnu gwyliau ar gyfer hanner tymor mis Hydref fel y gall ei busnes gael incwm hefyd.

“Dw i angen dipyn o bobl i drefnu eu gwyliau efo fi i fynd adag hynny [hanner tymor Hydref] i fi gael rhywfaint o arian yn dod i fewn i’r busnes.

“Dw i angen bob cefnogaeth. Dan ni angen Llywodraeth Cymru i adael i ni wybod yn fuan”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.