Jamie Roberts yn graddio o Gaergrawnt

Mae’r chwaraewr rygbi, Jamie Roberts, wedi graddio o Goleg y Frenhines, Caergrawnt ar ôl ennill gradd meistr.
Dechreuodd Roberts y cwrs rhan-amser mewn gwyddorau meddygol ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015.
Yn ôl Nation.Cymru, bu'n gwirfoddoli i helpu staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghaerdydd yn ystod cyfnodau prysuraf y pandemig.
Rhannodd lun ohono a’i fab bach a gafodd ei eni yn ystod y pandemig yn dathlu ar ôl y seremoni raddio.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Jamie Roberts/Twitter