Newyddion S4C

Coeden fwyaf y byd wedi'i lapio mewn blanced gwrthsefyll tân yng Nghaliffornia

The Guardian 17/09/2021

Coeden fwyaf y byd wedi'i lapio mewn blanced gwrthsefyll tân yng Nghaliffornia

Mae diffoddwyr tân wedi lapio gwaelod coeden fwyaf y byd mewn blanced sy’n gwrthsefyll tân wrth iddyn nhw geisio ei hachub rhag tannau gwyllt yng Nghaliffornia.

Mae’r goeden General Sherman yn 84 metr o uchder, ac yn tyfu ym Mharc Cenedlaethol Sequoia, Califfornia.

Cafodd coed Sequoia eraill, amgueddfa'r Giant Forist ac adeiladau eraill i’w gorchuddio mewn blancedi gwrthsefyll tân hefyd. Gall y flanced alwminiwm wrthsefyll gwres dwys am gyfnodau byr.

Yn ôl The Guardian, mae’r rhywogaeth Sequoia wedi addasu i ddelio gyda thanau ond mae tanau mawr sydd wedi’i achosi gan newid hinsawdd yn gyfrifol am lethu’r coed.

Mae'r tanau gwyllt ymhlith y diweddaraf ar ôl haf hir o dân sydd wedi llosgi bron i 9,195 km sgwâr yng Nghaliffornia, gan ddinistrio cannoedd o gartrefi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.