Cais am estyniad sy'n 'addas i Beverly Hills’ wedi ei gyfeirio at arolygwyr cynllunio
17/09/2021
Mae cynllun dadleuol i adeiladu estyniad i dŷ ger Nefyn yng Ngwynedd wedi cael ei gyfeirio at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones o Gyngor Gwynedd, wrth drafod y cynlluniau ym Medi 2020, bod yr estyniad yn “fwy addas i Beverly Hills na Mynydd Nefyn”.
Yn ôl Golwg 360, mae’r cais cynllunio wedi’i wrthod ddwywaith gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, gyda chynghorwyr yn mynd yn erbyn cyngor swyddogion yr awdurdod.
Bydd y gair olaf ar y cais yn cael ei wneud gan arolygwyr o Gaerdydd yn dilyn apêl yn erbyn penderfyniad y cynghorwyr sir.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
LLun: Eric Jones