Newyddion S4C

Teyrngedau i ddyn o Landybie fu farw mewn damwain yng Nghanada

17/09/2021
Clwb Rygbi Meraloma, Canada

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o Gymru a fu farw yng Nghanada. 

Roedd Daniel Wigley, oedd yn 29 oed, yn wreiddiol o Landybie yn Sir Gaerfyrddin ond roedd o wedi byw yn Vancouver am rai blynyddoedd. 

Bu farw Mr Wigley mewn damwain yn y ddinas.

Yn dilyn y newyddion, mae dros £50k wedi ei gasglu gan ei ffrindiau yng Nghanada drwy dudalen GoFundMe er mwyn helpu ei deulu gyda threfniadau i ddychwelyd ei gorff yn ôl i Gymru. 

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd llefarydd ar ran Clwb Rygbi Llandybie: "Roedd Daniel Wigley yn ddyn ifanc llawn cymeriad. 

"Roedd o wedi byw yn Vancouver dros y blynyddoedd diwethaf a threuliodd dyddiau cynnar ei yrfa yn Llundain. Ond, parhau i fod yn fachgen Llandybie oedd e'n y bôn. Mae newyddion am ei farwolaeth wedi torri calon y clwb a'r gymuned. 

"Roedd o'n ddyn ifanc mwyaf rhyfeddol, yn ddiymhongar a chwrtais. Ar y cae, roedd ganddo bresenoldeb enfawr ac yn chwaraewr rygbi gwych. Fel clwb, roeddem yn falch iawn ohono pan gynrychilodd tîm British Columbia yn erbyn tîm Canada cyn Cwpan y Byd.

"Rydym yn cydymdeimlo â David, Sue, Alex ac Annis. Mae o wedi cael ei gymryd oddi wrthym yn rhy fuan. 

"Nid oes geiriau i egluro sut rydym yn teimlo ar hyn o bryd - rydym i gyd wedi ein dryllio ond rydym ni'n gyd yma ar eich cyfer ac yn galaru gyda chi."

Llun: Clwb Rygbi Meraloma, Canada

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.