Y Red Arrows yn rhoi teyrnged i rôl y Cymry ym Mrwydr Prydain
Y Red Arrows yn rhoi teyrnged i rôl y Cymry ym Mrwydr Prydain
Cafodd awyrennau’r Red Arrows eu hedfan dros ddinas Caerdydd ddydd Iau fel teyrnged i'r Cymry wnaeth chwarae eu rhan yn ystod Brwydr Prydain.
Bwriad y digwyddiad oedd nodi lansiad arddangosfa yn Neuadd y Ddinas.
Mae’r arddangosfa yn adrodd hanes milwyr Brwydr Prydain a’r cadlywyddion o Gymru a wnaeth amddiffyn y genedl rhag ymosodiad y Natsïaid, yn ogystal â’r meysydd awyr yng Nghymru oedd yn gyfrifol am hyfforddi’r peilotiaid.
Bydd yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas yn cynnwys peilotiaid fel Rhingyll Glyn Griffiths - cyn peiriannydd nwy o Landudno a saethodd saith o awyrennau'r gelyn i lawr.
Rhai eraill sy’n cael sylw yn yr arddangosfa yw cyn rheolwyr sgwadron Cymru, fe Edward Graham o Lyn Ebwy, a wnaeth arwain hediad o chwe pheilot i ymosod ar fwy na 50 o awyrennau’r gelyn.
Cafodd 17 o beilotiaid o Gymru eu lladd yn ystod y frwydr, ac ar lawr gwlad, mewn dinasoedd fel Abertawe bu farw cannoedd o ganlyniad i gyrchoedd bomio’r Almaen.
Yn ôl Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, mae’r arddangosfa yn holl bwysig i gofio'r rheini o Gymru gwnaeth gyfrannu yn y frwydr,
“Dyna un o’r rhesymau ‘dy ni eisiau rhoi'r arddangosfa yma ymlaen yng Nghymru, i allu dangos i bobl Cymru fod 68 o beilotiaid wedi dod o ar draws Cymru, o’n cymunedau ni gyd, ac wedi ‘neud cyfraniad hollbwysig yn y rhyfel.”
Mae’r Frwydr Prydain yn rhywbeth sy’n byw yn gof y genedl: “Dwi’n meddwl bod e yn rhywbeth sydd o ddiddordeb heddiw, ers byth rili. Mae lot o lyfrau a rhaglenni ‘di cael ei ‘neud.
Roedd gan y RAF Fighter Command lai o niferoedd, roedd gan yr Almaen llawer mwy o awyrennau, so oedd e ychydig o David a Goliath i riw raddau. Wnaeth y RAF cael y fuddugoliaeth ac mae hwnna’n rhywbeth mae pobl yn cofio hefyd.”
Yn wreiddiol, roedd yr arddangosfa i fod i gael ei gynnal i ddathlu 80 mlynedd ers y frwydr yn 2020 ond gohiriwyd y digwyddiad oherwydd coronafeirws ac fe’i cynhaliwyd flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae'r diwrnod hwnnw - 15 Medi - yn cael ei ystyried fel y diwrnod pendant ym 1940 pan oedd colledion awyrennau Natsïaidd mor uchel roeddent yn gwybod na allent drechu'r RAF a bwrw ymlaen â’r goresgyniad o Brydain.