Newyddion S4C

Pasbortau brechu ‘ddim yn rhywbeth hollol newydd’

Newyddion S4C 16/09/2021

Pasbortau brechu ‘ddim yn rhywbeth hollol newydd’

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi mesurau pellach i reoli lledaeniad Covid-19 yng Nghymru mewn cynhadledd llywodraeth ddydd Gwener.

Er bod y Gweinidog Addysg wedi cydnabod fod y penderfyniad ar basbortau brechu yn ‘un anodd’, dydy'r Prif Weinidog heb ddiystyru eu defnyddio yn llwyr.

Gall cyflwyno pasbortau brechu olygu eu dangos cyn cael mynediad i glybiau nos, digwyddiadau torfol neu fwytai.

Yn ôl Dr Dylan Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor, mae pasbortau Covid-19 yn ddatblygiad o'r system sydd mewn lle yn barod.

"O ran yr ochr wyddonol mae'n ffordd eithaf syml i ddangos bod pobl wedi cael eu brechu ddwywaith," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Dyna di'r drefn yn nifer o sefydliadau hyd yn hyn, 'da ni'n gweld bod unigolion yn gorfod un ai dangos tystiolaeth bo' nhw wedi cael eu brechu ddwywaith neu bo' nhw wedi profi'n negatif erbyn Covidar y diwrnod.

"Felly dydy o ddim yn rhywbeth hollol newydd.

"'Da ni di bod yn neud o ers i'r cyfyngiadau dechrau llacio yn yr wythnosau a'r misoedd diwethaf 'ma.

"Dwi'n meddwl ma' mond datblygiad o'r systemau sy' gynno ni mewn lle hyd yma ydy o."

Dim ond 13% o bobl ifanc dan 24 oed sydd wedi cael dau frechiad. Ond mae ystadegau gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau gan Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod gan 91% o boblogaeth Cymru, gan gynnwys 87% o bobl rhwng 16 a 24 wrthgyrff Covid-19 yn eu gwaed.

Ddydd Iau mae'r corff sy’n cynrychioli bariau a chlybiau nos wedi ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog yn rhybuddio y byddai unrhyw ymgais i gyflwyno pasbort Covid-19 yn niweidiol i'r diwydiant, ac yn hynod anodd i'w cyflwyno a'i reoli.

Bydd Datganiad Covid-19 Llywodraeth Cymru yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C a chyfrifon cymdeithasol Newyddion S4C am 12:15 yfory.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.