Newyddion S4C

Galw am Ŵyl y Banc i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr

16/09/2021

Galw am Ŵyl y Banc i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr

Mae pobl wedi bod yn nodi Diwrnod Owain Glyndŵr ledled Cymru ddydd Iau, 16 Medi.

Ond, mae galwadau i greu’r diwrnod yn Ddiwrnod Cenedlaethol er mwyn i Gymru gyfan gael ymuno yn y dathliadau.

Yn ôl Nia Jones o Bwyllgor Gŵyl Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr Corwen, fe ddylai’r diwrnod fod yn Ŵyl y Banc.

“Be fyswn i’n hoffi a llawer un arall fyddai cal diwrnod cenedlaethol, fel Gŵyl y Banc.

“Dwi’m yn dalld pam na fedrwn ni gael gŵyl y banc i arwyr Cymru. Fedra' i feddwl am rei eraill fedrwn ni gael, ond yn sicr Owain Glyndŵr, mi ddylse fod yn ddiwrnod gŵyl y banc fel bod pawb yn medru dathlu ynde.

“Mae pobl yn gweithio, fedran nhw ddim bod yn rhan o’r gweithgaredd, ac yn sicr ddylse ni ddathlu fo llawer mwy nag yde ni.“

Un arall sydd wedi galw i wneud y diwrnod yn wyliau cenedlaethol yw’r Arglwydd Dafydd Wigley.

Yn ei golofn yn The National Wales ddydd Iau, fe ddywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru y “dylai unrhyw wyliau cenedlaethol newydd gynnwys 16 Medi fel Diwrnod Owain Glyndŵr.”

‘Arwr cenedlaethol’

Er bod pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y dathliadau yng Nghorwen eleni a'r llynedd, mae’r gymuned wedi dod at ei gilydd i gofio'r ffigwr pwysig.

Cafodd Gŵyl Diwrnod Owain Glyndŵr ei chynnal ar sgwâr y dref ddydd Iau, gyda thorch o flodau wedi ei osod ar gerflun Owain Glyndŵr, a pherfformiad hefyd gan fand Cambria.

 Mrs Jones byw yng Nglyndyfrdwy, sef cartref Owain Glyndŵr, mae hi’n bwysig iawn iddi hi a’r gymuned i ddathlu’r diwrnod.

“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn i ni fel Cymry bo ni’n coffáu ac yn cofnodi’r diwrnod oherwydd dyma arwr cenedlaethol.

“De ni’n dathlu fo yng Nghorwen, mae o’n arwr lleol, mae o’n arwr cenedlaethol oherwydd Owain Glyndŵr nath roi’r syniad ‘ma o un wlad, bo ni’n cydweithio efo’n gilydd ar gyfer Cymru.”

“Dwi’n meddwl bod o’n dod â’r gymuned at ei gilydd. Yn sicr pan o’n i’n blentyn ac yn cael fy nwyn i fyny yng Nghorwen, chydig iawn odde ni’n gwybod am Owain Glyndŵr,” ychwanegodd Mrs Jones.

“Dwi’n meddwl ar ôl i’r dref gael y cerflun arbennig yma o Owain Glyndŵr, bod ni wedi dod at ein gilydd a phenderfynu rhaid i ni ddathlu rŵan, da ni wedi cael y cerflun mawr ‘ma i gofnodi o a’i gysylltiad â’r ardal. Mae o wedi neud i bobl fod yn ymwybodol o hanes Owain Glyndŵr.”

Yn rhan o ddathliadau'r ŵyl, bydd darlith rithiol hefyd yn cael ei chynnal nos Iau gan yr Athro Gruffydd Aled Williams.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.