Newyddion S4C

Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan yn 'llaw-feistr anodd iawn i S4C'

16/09/2021
Nadine Dorries

Mae’r sylwebydd gwleidyddol a'r darlledwr, Guto Harri wedi dweud bod Ysgrifennydd Diwylliant newydd San Steffan yn “llaw-feistr anodd iawn i S4C”.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio, BBC Radio Cymru, dywedodd Guto Harri bod penodiad Nadine Dorries i’r swydd yn “rhoi nerth pellach” i bobl sydd yn credu mewn datganoli darlledu.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ail-drefnu ei gabinet ddoe, gan benodi Ms Dorries fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn lle Oliver Dowden. 

Dywedodd S4C eu bod wedi ysgrifennu at Nadine Dorries i'w llongyfarch.

'Yn driw ofnadwy i Boris Johnson'

Dywedodd Guto Harri, sydd hefyd yn gyn-ymgynghorydd i Boris Johnson yn ystod ei gyfnod fel Maer Llundain, nad yw’n syndod bod Nadine Dorries wedi ei phenodi i’r swydd.

“Dwi ddim wedi synnu bod hi wedi cael sedd, mae hi'n driw ofnadwy i Boris Johnson.

“Mae hi'n siarad yn blaen, yn ddi-flewyn ar dafod, mae hi'n deall diwylliant poblogaidd.

“Mae hi hefyd yn dod o ddosbarth gweithiol tlawd, dychrynllyd oedd yn y pen draw - ni 'di gweld, 'di darllen nofel ysgrifennodd hi, lle mae pob math o bethe' erchyll yn cael eu trin a'u trafod -  lle mae yna dlodi difrifol yn digwydd mewn cymunede' yn Lerpwl."

Image
Guto Harri
Guto Harri (Llun: S4C)

Gwnaeth Guto Harri sylwadau am ddyfodol cyllid y sianel dan arweiniad Dorries: 

"Nawr, mae'n bwysig iawn, 'sw ni'n gwneud i S4C, werthfawrogi bod hon [Nadine Dorries] yn gyfrifol am dalp o gyllid y sianel."

Awgrymodd y gallai fod yn anodd ei pherswadio, ag y bydd hi'n "dadlau dros bob miliwn". 

Ychwanegodd bod ei chefndir yn debygol o ddylanwadu ar yr hyn y bydd hi'n blaenoriaethu yn ariannol hefyd. 

"Mae hi wedi bod yn nyrs, a mae £76m neu be' bynnag sydd yn dal yn mynd i S4C yn £76m all fynd i'r ysbytai ac yn y blaen yn gyntaf yn ei safbwynt hi."

Yn 2012, ymddangosodd Dorries ar gyfres I’m a Celebrity ar ITV. Dywedodd Guto Harri bod angen i reolwyr S4C ystyried ei chefndir:

"Mae hi wedi bod yn celebrity yn y jyngl neu be' bynnag oedd hi."

"'Sw ni'n annog y rheini sydd yn rhedeg S4C ar y funud i fod yn gelfydd iawn ac i fynd i'r 'charm offensive' yn gloi iawn.

“Falle ffeindio rhywbeth fel y jyngl, ar y sianel falle, un yng Nghymru, a’i gwahodd hi i fynd iddo fe. Falla gwahodd hi i'r gyfres nesaf o FFIT Cymru neu ddysgu Cymraeg!”

Ychwanegodd: "Mae eisiau bod yn gelfydd iawn, mae hi'n llaw-feistr anodd iawn i'r sianel."

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Rydym yn diolch i’r cyn-Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden a’r cyn-Weinidog John Whittingdale am y cydweithio a fu rhyngddynt a’r sianel yn ystod eu cyfnod yn y DCMS.

"Rydym eisoes wedi ysgrifennu at Nadine Dorres i’w llongyfarch ac er mwyn cynnig cwrdd â hi a Julia Lopez, y gweinidog gyda chyfrifoldeb dros ddarlledu, er mwyn pwysleisio arnynt bwysigrwydd S4C i iaith, diwylliant ac economi Cymru."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.