Newyddion S4C

Chwe mis yn y carchar i ddyn am ddwyn gan staff y GIG

16/09/2021

Chwe mis yn y carchar i ddyn am ddwyn gan staff y GIG

Mae dyn wedi ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar am dargedu eiddo staff y GIG.

Fe blediodd y dyn yn euog yn y llys cyn y ddedfryd.

Dywed yr heddlu fod rhai troseddwyr yn parhau i dargedu gweithwyr gwasanaethau brys, er bod staff y GIG “wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf”.

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i amddiffyn eiddo staff y GIG.

Dywed y llu bod hyn yn sgil cynnydd mewn achosion o ddwyn cerbydau a dwyn o gerbydau sydd wedi’u parcio ar safleoedd y GIG.

Mae tim arbenigol Dangos y Drws i Drosedd y llu wedi bod yn defnyddio gwahanol ddulliau i ddal unigolion sy’n targedu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Tom Harding: “Boed hyn yn rhybudd i bobl sy’n ceisio elwa ar droseddau trwy dargedu gweithwyr diwyd y GIG: rydych yn gwneud camgymeriad dybryd.

“Byddwn yn eich dal, a byddwn yn eich gwneud yn atebol am eich gweithredoedd," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.