Llety gwyliau yn gwahardd gwesteion sydd wedi eu brechu rhag Covid-19

Mae llety gwyliau ym Mhowys wedi dweud eu bod yn gwrthod holl ymwelwyr sydd wedi derbyn brechlyn Covid-19.
Mae perchennog Blaeneinion ym Machynlleth wedi dweud mai dim ond gwesteion sydd heb eu brechu fydd yn cael eu croesawu yno.
Mae Sharon Girardi yn dweud bod y brechlyn yn "arbrofol" ac yn dweud mai ei "dyletswydd gofal" i'w theulu a'i gwesteion yw'r rheswm dros y gwaharddiad.
Nid oes sail feddygol i beidio derbyn y brechlyn yn seiliedig ar yr hyn mae Ms Girardi yn ei ddweud, meddai'r Mirror.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Blaeneinion