Newyddion S4C

Pedwar yn gadael ar gylchdaith roced SpaceX o amgylch y ddaear

Sky News 16/09/2021
CC

Mae'r criw cyntaf erioed o sifiliaid i fynd ar daith ofod o amgylch y ddaear wedi gadael ar eu taith o Florida yn yr UDA.

Bydd pedwar aelod o'r criw yn teithio ar roced Space Falcon 9, a'r gobaith yw y bydd y gofodwyr yn teithio o amgylch y ddaear unwaith bob 90 munud ar gyflymder o 17,000 mya.

Fe fydd eu hantur yn para tridiau, ac mae'n cael ei ystyried fel cam pwysig ymlaen tuag at deithiau gofod masnachol yn y dyfodol.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: prashanthpaineedi32

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.