Prydain, yr UDA ag Awstralia yn uno mewn cynghrair filwrol
Mae'r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig ac Awstralia wedi sefydlu partneriaeth newydd er mwyn diogelu'r tair gwlad ar y môr.
Yn ôl The Guardian, pwrpas y cynllun yw amddiffyn y gwledydd rhag unrhyw fygythiadau gan China i'r dyfodol.
Fe fydd y gynghrair, sydd wedi'i henwi'n Aukus, yn golygu y bydd Awstralia yn adeiladu llong danfor niwclear.
Cyhoeddodd Arlywydd yr UDA, Joe Biden, a Phrif Weinidogion y DU ac Awstralia, Boris Johnson a Scott Morrison, eu cynlluniau drwy gynhadledd rithiol. Dywedodd yr arweinwyr fod y cynllun yn rhan bwysig o ddatblygu'r gynghrair rhwng y gwledydd.
Ychwanegodd Mr Morrison y byddai timau o'r gwledydd yn cynllunio'r llong danfor niwclear newydd, a fydd yn cael ei hadeiladau yn Adelaide, dros yr 18 mis nesaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Defence Images